Perthi uchel

Gall y berth briodol fod yn ffin gardd ddelfrydol gan helpu i ddod â bywyd gwyllt newydd i’r ardd, ond gall perth amhriodol gael effaith nas dymunir arnoch chi, neu eich cymdogion, fel amharu ar olau.

Gallwn helpu trigolion sy’n pryderu am uchder perth.

Gallwch gwyno i ni am berth uchel:

  • Pan fo’r berth yn effeithio ar eich gallu rhesymol i fwynhau eich cartref gan ei bod yn rhy dal, ac
  • Rydych wedi gwneud ymdrechion i ddatrys y sefyllfa cyn gwneud eich cwyn.

Pa fath o gwynion allwn ni ddelio â nhw?

Dylai’r berth fod:

  • yn tyfu ar dir sy'n eiddo i rywun arall
  • yn llinell o ddwy goeden neu lwyn neu fwy
  • yn fytholwyrdd neu’n rhannol fytholwyrdd
  • yn fwy na dwy fetr o uchder
  • yn meddu ar y gallu i amharu ar olau neu olygfeydd (hyd yn oed os oes bylchau yn y deiliach neu rhwng y llwyni neu goed)

Pwy all gwyno?

Perchennog neu feddiannwr yr eiddo y mae'r berth yn effeithio arno. Os ydych yn denant neu lesddeiliad, dylech roi gwybod i’r perchennog am eich bwriad. Nid oes rhaid i’r eiddo fod yn eiddo preswyl yn gyfan gwbl, ond mae’n rhaid iddo gynnwys llety i fyw ynddo. Fel arall ni allwn ystyried y gŵyn.

Pa ymdrechion ddylid eu gwneud i ddatrys y sefyllfa cyn cwyno?

Gallwn ond dderbyn cwyn pan fetho popeth arall. Rhaid i chi ddangos eich bod wedi ceisio datrys y broblem gyda pherchennog y berth. Dylech fod wedi cymryd y camau canlynol:

  • gwneud pob ymdrech i ddatrys y sefyllfa eich hun
  • ceisio siarad â pherchennog y berth neu feddiannwr yr eiddo
  • anfon llythyr at berchennog y berth yn yr eiddo i geisio datrys y broblem
  • rhoi gwybod i’r cymydog eich bod yn bwriadu cwyno i ni

Os ydych wedi bodloni’r gofynion hyn, gallwch wneud cwyn.

Sut mae gwneud cwyn?

Bydd rhaid i chi roi tystiolaeth i ni eich bod wedi ceisio datrys yr anghydfod eich hun cyn y gallwn ystyried eich cwyn. Nid yw hwn yn wasanaeth di-dâl a bydd ymchwiliad yn costio £320 i chi.

Os hoffech gwyno i ni bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd atom gyda ffi o £320. I drafod eich cwyn ac i ofyn am ffurflen gais ffoniwch 01495 235209 yn ystod oriau swyddfa.

Ein rôl yw gweithredu fel trydydd parti diduedd i benderfynu a yw’r berth yn effeithio ar allu rhesymol y cwynwr i fwynhau ei eiddo.

Rhagor o wybodaeth

Perthi uchel - cwyno i'r cyngor

Over the garden hedge

Hedge height and light loss

Gallwch hefyd gysylltu ag Iechyd yr Amgylchedd a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach i chi.