Pasys teithio ysgolion
Trefniadau ar gyfer Medi 2020
Mae'r holl ddisgyblion sy'n dechrau blwyddyn 7 a'r rhai sy'n mynychu Dosbarthiadau Cymorth Dysgu, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ac Ysgolion Arbennig wedi gael eu hysgrifennu i gadarnhau pa drefniadau trafnidiaeth sydd ar waith. Bydd pob myfyriwr arall yn teithio yn ôl ei ddull cludo arferol (oni bai yr ysgrifennir ato fel arall).
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd y Cyngor yn cyhoeddi tocynnau bws newydd ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21. Cynghorir dysgwyr i gadw eu tocyn bws o flwyddyn academaidd 2019/20 i'w gyflwyno i'r gyrrwr. Os ydych wedi colli neu waredu'ch tocyn, nid oes angen cysylltu â'r Cyngor i gael un arall yn ei le gan y bydd y gyrrwr yn cael rhestr o ddisgyblion â hawl y gellir eu gwirio cyn mynd ar fwrdd y bws.
Os na ddarparwyd cludiant eisoes neu os nad ydych wedi derbyn cadarnhad bod eich plentyn wedi cael sedd am ddim ar gludiant ysgol, rhaid i chi wneud eich ffordd eich hun i'r ysgol.
Mae'r pasiau hyn yn berthnasol i blant 4 - 18 oed (Dosbarth Derbyn i flwyddyn 13).
I deithio am ddim i’r ysgol:
- Rhaid i chi fyw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag adran y dreth gyngor a’ch bod yn byw yn yr eiddo rydych yn gwneud cais am drafnidiaeth ar ei gyfer.
- Mae’n rhaid i’ch plentyn fynychu ei ysgol ‘berthnasol’. Yr ysgol berthnasol yw ysgol y dalgylch neu’r ysgol agosaf.
- I blant mewn addysg gynradd, mae’n rhaid i’r pellter rhwng eich cartref a’r ysgol fod yn fwy na milltir a hanner – mesurir y pellter drwy’r llwybr cerdded agosaf sydd ar gael.
- I bob disgybl arall, mae’n rhaid i’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol fod yn fwy na dwy filltir – mesurir y pellter drwy’r llwybr cerdded agosaf sydd ar gael.
Gwnewch gais ar-lein am drafnidiaeth ysgol am ddim >
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Ar gyfer teithio i'r coleg, Uned Drafnidiaeth Integredig.
For college travel, ewch i adran tocyn teithio i'r coleg.
Pasys bws coll neu sydd wedi eu dwyn
Os bydd pas bws yn mynd ar goll, yn cael ei ddwyn neu ei ddifetha, dim ond ar ôl talu ffi fechan y cyflwynir pas dyblyg.
- Pas bws £5.00 a gyflwynir gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig
- Tocyn tymor £10.00 a gyflwynir gan ddarparwr Trafnidiaeth Gyhoeddus
I drefnu pas bws / tocyn tymor dyblyg - cysylltwch â'r Uned Trafnidiaeth Integredig.
Gwneud cwyn neu roi gwybod am broblem
Os hoffech roi gwybod am broblem neu gyflwyno cwyn cysylltwch â ni. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch y gŵyn neu’r ymholiad.
Diogelu data
Mae dyletswydd ar y cyngor i ddiogelu arian y mae’n ei weinyddu a byddech yn gweithredu’n dwyllodrus pe baech yn rhoi cyfeiriad anghywir er mwyn cael gwasanaeth nad oes hawl gennych i’w gael. Er mwyn delio â’ch cais, efallai y byddwn yn cysylltu ag adrannau eraill yn y cyngor fel rhan o’n proses ddilysu. Os na fyddwn yn gallu dilysu bod y cyfeiriad a roddir yn gywir, caiff y ffurflen gais ei dychwelyd i’r ymgeisydd.