Telerau ac amodau tocynnau tymor
Coed Duon, Bargod a Chaerffili
Gellir prynu tocynnau tymor ar gyfer eu defnyddio yn y meysydd parcio arhosiad hir canlynol yng Nghoed Duon, Bargod a Chaerffili yn unig:
Coed Duon
- Court House
- Thorncombe 2
- Thorncombe 3
- Cliff Road
- Libanus
- Highland Terrace
- Gordon Road
Bargod
Caerffili
- Heol y Cilgant (Arhosiad Hir)
- Teras yr Orsa
- Heol Bedwas
- Lawrence Street
Nid yw tocynnau tymor yn ddilys ar gyfer eu defnyddio yn y meysydd parcio arhosiad byr canlynol:
- Y Stryd Fawr
- Twyn
- Woodbine Road
- Heol y Cilgant (Arhosiad Byr)
- Wesley Road
- Gorsaf Fysiau
- Market Traders'
Mae tocynnau tymor yn ddilys ar gyfer eu defnyddio yn y maes parcio a grybwyllir ar y tocyn yn unig.
Ni fydd y Cyngor yn ad-dalu unrhyw arian os bydd y maes parcio ar gau yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu mewn achos o ildio'r tocyn tymor cyn y dyddiad dod i ben.
Ni fydd y Cyngor yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael.
Ym Maes Parcio Libanus, dim ond 20 o leoedd sydd ar gael. I ddechrau, bydd 6 yn cael eu cadw ar gyfer deiliaid tocynnau tymor i breswylwyr yn unig. Dim ond preswylwyr tai sy'n eilrifau 264–286 Y Stryd Fawr, sy'n berchen ar geir, sy'n cael gwneud cais am docyn tymor rhatach i breswylwyr. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y lleoedd sy'n weddill yn cael eu defnyddio mor ymarferol â phosib, efallai bydd y Cyngor yn cyhoeddi mwy o docynnau na nifer y lleoedd.
Ar gyfer Maes Parcio Gordon Road, dim ond preswylwyr tai sy'n eilrifau 12–34a Gordon Road a rhifau 1–10 Albion Terrace, sy'n berchen ar geir, sy'n cael gwneud cais am docyn tymor. Yn y lle cyntaf, gallwch chi wneud cais am un tocyn tymor i bob eiddo. Os oes lleoedd sy'n weddill yn y maes parcio, bydd y Cyngor yn ystyried rhoi mwy nag un tocyn i bob eiddo.
Ar gyfer Maes Parcio Highland Terrace, dim ond preswylwyr Graig View, Highland Terrace, rhif 6 Woodbine Road ac odrifau 7–11 Woodbine Road, sy'n berchen ar geir, sy'n cael gwneud cais am docyn tymor. Yn y lle cyntaf, gallwch chi wneud cais am un tocyn tymor i bob eiddo. Os oes lleoedd sy'n weddill yn y maes parcio, bydd y Cyngor yn ystyried rhoi mwy nag un tocyn i bob eiddo.
Ar gyfer parth llwytho Heol Bedwas, dim ond preswylwyr tai Ton-y-Felin Road, sy'n berchen ar geir, sy'n cael gwneud cais am docyn tymor.
Bydd tocyn tymor newydd yn cael ei gyflwyno os bydd:
- Y cerbyd wedi ei farnu'n ddiwerth gan gwmni yswiriant
- Y cerbyd wedi ei ddwyn
- Y cerbyd wedi ei newid (ffi yn berthnasol)
Bydd y tocyn tymor yn cael ei arnodi gyda rhif cofrestru'r cerbyd y mae'n berthnasol iddo. Ar gyfer cerbyd sydd wedi cael ei newid, rhaid dychwelyd y tocyn presennol (neu ddatganiad ysgrifenedig ei fod wedi'i golli, wedi'i ddifrodi, ac ati) cyn i ni gyflwyno un newydd: Gwasanaethau Peirianneg, Cyfadran yr Amgylchedd, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Rhaid dangos tocynnau tymor yn glir ar y ffenestr flaen.
Bydd methu â chydymffurfio â'r gorchymyn rheoleiddio maes parcio yn arwain at gyflwyno hysbysiad tâl cosb. Mae'r Cyngor hefyd yn cadw'r hawl i dynnu tocyn tymor yn ôl neu'i ganslo, ar unwaith a heb ad-daliad.
Gall y Cyngor gysylltu â chi a gofyn i chi e-bostio copi o'r dystysgrif cofrestru cerbyd (V5CW) i ategu'ch cais.
Bydd angen i chi ganiatáu 10 diwrnod gwaith i'ch trwydded gael ei phrosesu a'i phostio atoch chi. Os nad oes gennych chi drwydded ddilys, bydd angen i chi naill ai brynu tocyn talu ac arddangos neu ddod o hyd i le cyfreithlon arall i barcio’ch cerbyd.
Efallai y byddwch chi'n agored i erlyniad os ydych chi'n fwriadol yn gwneud datganiad ffug.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 815588 neu e-bostio rheolitraffig@caerffili.gov.uk
Mae'r telerau ac amodau hyn i'w cadw gan yr ymgeisydd.