Adnewyddu eich bathodyn glas

Blue badgeRhaid adnewyddu eich bathodyn glas bob tair blynedd. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r dyddiad dod i ben ar eich bathodyn a gwneud cais am adnewyddiad. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg o fewn 28 diwrnod i ddyddiad diweddu'r bathodyn, ond nid cyn.

Os ydych yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili ac yn dymuno adnewyddu eich bathodyn glas bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dyddiad Geni
  • Man geni
  • Rhif bathodyn glas cyfredol (Dyma chwe rhif cyntaf y rhif hir ar y bathodyn)

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi gyda chanllawiau pellach.

Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas

Tudalennau Cysylltiedig

Cerdyn Teitho Rhatach | Lle parcio i bobl anabl