FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cerdyn Teithio Rhatach

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu os oes gennych chi anabledd, efallai eich bod chi'n gymwys i gael Cerdyn Teithio Rhatach am ddim gan Trafnidiaeth Cymru (A elwir hefyd yn 'pàs bws i bobl dros 60 oed'). Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gallu teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol a rhai gwasanaethau trenau ledled Cymru.

Pwy sy'n gallu gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach?

Gallwch chi wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach os:

  • ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn
  • oes gennych chi anabledd corfforol neu ddysgu
  • ydych chi'n byw yng Nghymru

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais i Trafnidiaeth Cymru am Gerdyn Teithio Rhatach.

Ar y wefan, gellir dod o hyd i wybodaeth am:

Cerdyn Bws ar goll neu wedi'i ddwyn

Os yw eich cerdyn teithio ar goll, wedi'i ddifrodi neu wedi'i ddwyn, gallwch chi ofyn am un arall drwy ffonio Trafnidiaeth Cymru ar 0300 303 4240.

Cerdyn Cydymaith

Os oes angen help arnoch chi wrth deithio, efallai eich bod chi'n gymwys i gael cerdyn cydymaith sy'n darparu teithio am ddim ar gyfer un person sy'n dod gyda chi ar gyfer eich taith gyfan. Gwneir ceisiadau am gerdyn cydymaith i ni yn uniongyrchol, nid trwy Trafnidiaeth Cymru.

Gallwch chi gael cerdyn cydymaith os oes gennych chi:

  • Ymddygiad heriol, ac mae angen eich goruchwylio chi drwy'r amser;
  • Namau gwybyddol a meddyliol difrifol (yn cynnwys pobl nad ydyn nhw'n ymwybodol o risg ac sydd â gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith);
  • Cyfuniad o golli golwg a chlyw neu golli golwg a lleferydd sy'n eich atal chi rhag symud yn annibynnol; neu
  • Anawsterau wrth ddefnyddio cadair olwyn yn annibynnol.
I wneud cais am gerdyn cydymaith, cysylltwch â ni ar: 01443 866955.