Atebion i'ch cwestiynau

Yn Chwefror 2017, cadarnhaodd Heddlu Gwent yn ysgrifenedig i bob un o 5 Awdurdod Lleol Gwent eu bod yn bwriadu “tynnu ei swyddogion a'i staff o weithgareddau sy'n cynnwysgorfodi cyfyngiadau parcio.

Gwent yw'r unig ardal yng Nghymru lle nad yw'r awdurdodau lleol wedi cymryd meddiant ar y pwerau hyn. Mae hyn yn golygu trosglwyddo pwerau o'r heddlu at yr  awdurdodau lleol.

O ganlyniad, mae Cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen oll yn y broses o ymgymryd â Gorfodi Parcio Sifil (GPS).

Mae'r manteision o gyflwyno GPS ym mwrdeistref sirol Caerffili yn cynnwys rheolaeth dros ble, pryd a sut mae parcio yn y fwrdeistref sirol yn cael ei reoli, gan alluogi darparu gwasanaethau mwy hyblyg lle bo angen, gwella cydymffurfiad â chyfyngiadau parcio a lleihau tagfeydd.

Beth yw Gorfodi Parcio Sifil (GPS)?
Mae GSB yn golygu trosglwyddo pwerau o'r heddlu i'r awdurdod lleol. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymryd drosodd dyletswyddau gorfodi parcio oddi wrth Heddlu Gwent.

Pryd bydd y newid yn digwydd?
Bydd y cyngor yn gyfrifol am OPS o ddydd Llun 8 Ebrill, 2019.

Pwy sy'n gyfrifol tan y dyddiad hwnnw?
Bydd y cyfrifoldeb am orfodi parcio yn aros gyda Heddlu Gwent tan y dyddiad newid.

Pam gwneud y newid?
Bydd trosglwyddo pwerau yn caniatáu i'r cyngor ddarparu dull cydlynol a chyson o orfodi rheoliadau traffig a bydd yn helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd, llif traffig a lleihau rhwystrau.

Ydy GPS yn digwydd mewn ardaloedd eraill?
Ydy - Gwent yw'r unig ardal heddlu yng Nghymru ar hyn o bryd i barhau i fod yn gyfrifol am orfodi parcio a bydd trosglwyddo pwerau i'r cyngor yn dod â Chaerffili a phob awdurdod lleol arall yng Ngwent yn unol â gweddill y wlad. 

A fyddwn yn gweld wardeniaid newydd yn patrolio'r strydoedd?
Byddwch - bydd Swyddogion Gorfodi Sifil newydd, a gyflogir gan y Cyngor, yn ymgymryd â dyletswyddau gorfodi ar draws bwrdeistref sirol Caerffili.
I ddechrau, byddwn yn cyflogi 10 swyddog wrth i ni gyflwyno'r cynllun ar draws yr ardal, ond gallai hyn newid yn y dyfodol.

Pa bwerau fydd ganddynt?
Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn gallu gorfodi'r holl gyfyngiadau sy'n ymwneud â pharcio ar y briffordd gyhoeddus trwy gyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb am unrhyw gerbyd y canfyddir ei fod wedi'i barcio'n anghyfreithlon. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwahardd Stopio (e.e. Arosfannau Bysiau, Marciau Ysgol Cadwch yn Glir, marciau igam ogam ar y dynesfeydd at groesfannau cerddwyr a chyfyngiadau clirffordd gwledig)
  • Dim Aros, Dim Aros a Dim Llwytho. 
  • Baeau Parcio yn benodol ar gyfer Aros Cyfyngedig, Llwytho, Tacsis, Pobl Anabl, Meddygon, yr Heddlu, Cerbydau Trefnwyr Angladdau a deiliaid Trwyddedau.

Byddent hefyd yn gallu rhoi Hysbysiad Tâl Cosb ar gyfer: 

  • cerbydau wedi’u parcio ar draws cyrbau isel 
  • cerbydau wedi'u parcio mwy na 50 centimedr i ffwrdd o'r cwrbyn
  • cerbydau wedi'u parcio heblaw yn unol â rheoliadau'r maes parcio ym meysydd parcio'r Cyngor 

A fydd unrhyw gyfyngiadau na all Swyddogion Gorfodi Sifil eu gorfodi?
Bydd - Bydd Heddlu Gwent yn parhau i orfodi'r canlynol:

  • Bydd yr holl droseddau traffig sy'n symud (h.y. cyfyngiadau pwysau, gwahardd gyrru heblaw am fynediad, gwahardd troi i'r dde/troadau pedol, Dim Mynediad, unffordd, cyfyngiadau cyflymder a.y.b.) Achosion rhwystr i draffig sy'n symud (e.e. cyffyrdd blychau melyn).
  • Parcio peryglus.
  • Parcio ar groesfannau igam-ogam i gerddwyr lle gall yr heddlu roi dirwy sy'n arwain at bwyntiau ar eich trwydded. (Sylwer, gall ein Swyddogion Gorfodi Sifil hefyd roi Hysbysiad Tâl Cosb ar gyfer cerbydau sydd wedi'u parcio ar groesfannau igam-ogam i gerddwyr)
  • Parcio llwybr troed lle nad oes llinellau melyn yn bresennol.
  • Gyrru dros droedffyrdd.

Bydd yr Heddlu hefyd yn cyflawni gorfodi lle mae materion diogelwch neu faterion plismona traffig eraill yn gysylltiedig

Faint fydd y ddirwy?
Bydd yr Hysbysiad Tâl Cosb yn £70, wedi'i ostwng i £35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol (a £50 a £25 yn y drefn honno ar gyfer troseddau llai.)

Sut y gallaf dalu dirwy?
Bydd manylion am sut i dalu ar gefn yr Hysbysiad Tâl Cosb. Os ydych am dalu ar-lein ewch i wefan Grŵp Parcio De Cymru.

Beth fydd yn digwydd i'r arian?
Mae deddfwriaeth yn pennu y bydd unrhyw arian dros ben a grëir trwy'r Gorfodi Sifil ar Barcio'n cael ei ail-fuddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd a chludiant.

A oes proses apelio?
Oes - Os ydych chi'n dymuno herio Hysbysiad Tâl Cosb, bydd gweithdrefn apelio ffurfiol i'w ddilyn. Bydd manylion am hyn yn cael eu cyfleu ar adeg y newid (a byddant ar gael ar yr Hysbysiad Tâl Cosb ei hun ac ar wefan CBSC)

A fydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn targedu lleoliadau penodol?
Mae'r Swyddogion Gorfodi Sifil yn helpu i sicrhau cymunedau diogel a bywiog i drigolion a busnesau, felly bydd adnoddau'n cael eu targedu i feysydd allweddol megis canol trefi, y tu allan i ysgolion a mannau penodol eraill, yn ogystal ag ardaloedd preswyl.

A fydd Swyddogion Gorfodi Sifil yn cael targed o nifer o Hysbysiadau i'w cyhoeddi? 
Mae'n anghyfreithlon gosod targedau ar gyfer rhoi tocynnau parcio, a byddai'r gorfodi a ddilynir yn cael effaith sylweddol ar enw da'r Cyngor. 

Oes lwfansau ar gael i ddeiliaid bathodynnau glas?
Caniateir i ddeiliaid bathodynnau glas barcio mewn unrhyw un o'r lleoliadau ar y stryd canlynol am gyfnod diderfyn, oni bai bod arwyddion yn dweud fel arall:

  • Mannau parcio i bobl anabl 
  • Trwydded parcio i breswylwyr 
  • Mannau parcio ag aros cyfyngedig ar y stryd 

Caniateir i ddeiliaid bathodynnau glas barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl (ac eithrio pan fo gwaharddiad ar lwytho neu ddadlwytho) lle na fyddai'n achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr y ffordd eraill am gyfnod nad yw'n fwy na thair awr.

O ran parcio oddi ar y stryd, mae polisi presennol CBSC yn caniatáu i ddeiliaid Bathodynnau Glas barcio am 1 awr ychwanegol ar ôl i'r amser sydd ar y tocyn ddod i ben ym mhob maes parcio talu ac arddangos y Cyngor, ond dim ond os yw'r Bathodyn Glas yn cael ei arddangos yn gywir.  (Dylai deiliaid Bathodynnau Glas bob amser edrych am arwyddion mewn meysydd parcio sy'n nodi'r trefniadau lleol sydd mewn grym).  

Sut ydw i'n gofyn am orfodi mewn lleoliad penodol neu adrodd am gerbyd sydd wedi'i barcio'n anghyfreithlon? 

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Sut ydw i'n gofyn am newidiadau i'r cyfyngiadau parcio presennol?Byddai'n angenrheidiol i ddilyn y weithdrefn orchymyn rheoleiddio traffig llawn er mwyn gwneud unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau presennol, ac fel rheol, mae hynny'n cymryd tua 6-9 mis i'w gwblhau oherwydd y prosesau statudol cysylltiedig. Mae ein rhestr gyfredol o orchmynion rheoleiddio traffig newydd a'r rhai a ofynnwyd amdanynt yn eithaf hir ac felly mae'n debyg y bydd yn cymryd llawer o amser inni eu cyflawni.  Fodd bynnag, yn dilyn dechreuad y Gorfodi Parcio Sifil (GPS) yn Ebrill 2019, byddai'n fuddiol inni ddeall pa effaith y mae'r lefel gynyddol o orfodi wedi ei chael cyn symud ymlaen at unrhyw orchmynion traffig sy'n ymwneud â pharcio newydd, ac adolygu'r ceisiadau heb eu penderfynu (a'r rhai newydd) ar sail y wybodaeth honno. Nid yw'r broses ar gyfer adolygu effaith GPS a'r ceisiadau pwysig hyn, a rhai’r dyfodol, er mwyn cyrraedd rhaglen gyflwyno Gorchymyn  Rheoli Traffig (GRhT) wedi cael ei gymeradwyo eto. Bydd swyddogion yn ymgysylltu â Chynghorwyr Lleol yn y drafodaeth hon fel rhan o gytuno'r blaenoriaethau ar gyfer GRhT yn y dyfodol.