Gwybodaeth a chyngor am fysiau

Amserlenni bysiau

Mae Traveline Cymru yn darparu amseroedd a gwybodaeth am lwybrau ar gyfer yr holl wasanaethau bysiau, coetsys, trenau, fferïau ac awyrennau yng Nghymru.

Mae cynlluniwr teithiau ar-lein ar gael yn www.traveline.cymru

Gallwch hefyd lawrlwytho app Traveline Cymru oddi wrth y iPhone App store neu Android marketplace.

Ffôn: 0800 464 00 00

Neges destun: 84268 Bydd eisiau i chi ddod o hyd i god unigryw'r safle bysiau (sy'n cynnwys saith llythyren, ac sydd i'w weld ar y safle bysiau neu ar wefan Traveline Cymru), a'i anfon i 84268. Yna, byddwch chi'n derbyn neges destun a fydd yn nodi amseroedd a rhifau gwasanaeth y pedwar bws nesaf a fydd yn cyrraedd y safle bysiau dan sylw, ynghyd ag i ble maen nhw'n mynd.)

Cerdyn Teithio Rhatach

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu os oes gennych chi anabledd, efallai eich bod chi'n gymwys i gael Cerdyn Teithio Rhatach am ddim gan Trafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gallu teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol a rhai gwasanaethau trenau ledled Cymru.

Cerdyn Teithio Rhatach

Arosfannau a safleoedd bws

Rydym yn gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw safleoedd bws, arwyddion safle bws, gorsafoedd bws (Bargod, y Coed Duon, Caerffili a Nelson)a arddangosfeydd amserlenni safle bws. Os byddwch yn dod o hyd i broblem gyda’r uchod, rhowch wybod i ni.

Adroddwch amdano Nawr

Gwasanaethau bysiau – manylion cyswllt

Harris Coaches (Pengam) Ltd
Bryn Gwyn, Trelyn, Coed Duon NP12 3RZ
Ffôn: 01443 832290
www.harriscoaches.wales
 
Adventure Travel Ltd
Coaster Place, Caerdydd CF10 4XZ
Ffôn: 02920 442040
www.adventuretravel.cymru
 

Stagecoach de Cymru
Ar gyfer llwybrau sy'n gweithredu o'r depo yn Aberdâr: Cwmbach New Road, Cwm-bach, Aberdâr CF44 0PN.

Ar gyfer llwybrau sy'n gweithredu o'r depos yn nhrefi Coed Duon a Chaerffili: Uned 4, Bloc A, Ystâd Ddiwydiannol Penmaen, Pontllan-fraith, Coed Duon NP12 2DY.

Ar gyfer llwybrau sy'n gweithredu o'r depos yn nhrefi Aberhonddu a Merthyr Tudful: Cyfnewidfa Fysiau Merthyr Tudful, Heol yr Alarch, Merthyr Tudful CF47 8EU.

Ar gyfer llwybrau sy'n gweithredu o'r depos yn nhrefi Cwmbrân a Bryn-mawr: 1 St David's Road, Cwmbrân NP44 1PD.

Ar gyfer llwybrau sy'n gweithredu o'r depo yn y Porth: Heol Aber-rhondda, Y Porth CF39 0LN

Ffôn: 0345 241 8000
www.stagecoachbus.com/about/south-wales
 
Newport Transport Limited
160 Corporation Road, Casnewydd NP19 0WF
Ffôn: 01633 670 563 / 263 600
www.newportbus.co.uk
 
Bws Caerdydd
Sloper Road, Caerdydd CF11 8TB
Ffôn: 029 2066 6444
www.cardiffbus.com
 
Phil Anslow & Sons Coaches
Uned 1, Ystâd Ddiwydiannol y Farteg, Y Farteg, Pont-y-pŵl NP4 7PZ
Ffôn: 01495 775599
www.philanslowcoaches.co.uk

 phwy ydw i'n cysylltu pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le ar y bws?

Mae gweithredwyr gwasanaethau bysiau yn ceisio gwneud eu gorau glas i gynnal gwasanaethau o safon uchel, ond, weithiau, mae rhywbeth yn mynd o'i le, a dylai unrhyw gwynion gael eu cyfeirio atyn nhw yn y lle cyntaf.

Mae Bus Users UK yn gorff annibynnol sy'n bodoli er mwyn eich helpu chi i gael y gorau o'ch gwasanaeth bysiau. Os ydych chi o'r farn nad yw gwasanaeth penodol yn cael ei weithredu fel y dylai, neu os oes gennych chi bryderon ynglŷn â'r cerbyd rydych chi'n teithio arno, neu os ydych chi'n anfodlon ar ymateb y gweithredwr gwasanaeth bysiau, cysylltwch â:

Bus Users UK yng Nghymru
Blwch Swyddfa'r Post 1045
Caerdydd
CF11 1JE
Ffôn: 029 20 344300
E-mail: wales@bususers.org