Teithio Llesol

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn golygu cerdded a beicio, gan gynnwys y defnydd o sgwteri symudol, ar gyfer teithiau bob dydd.  Mae hyn yn cynnwys teithiau i'r ysgol, gwaith, siopau neu i wasanaethau mynediad, er enghraifft canolfannau iechyd neu ganolfannau hamdden. Nid yw teithio llesol yn cynnwys cerdded a beicio at ddibenion hamdden.

Mae teithio llesol yn bwysig o ran hyrwyddo dull byw mwy iach ac wrth leihau effeithiau negyddol traffig ar ein cymdogaethau a chymunedau ni. Mae'n gallu helpu i leihau tagfeydd a llygredd sŵn a gwella ansawdd aer yn lleol. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dyletswydd teithio llesol 

Ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru mae'r ddyletswydd ac mae’n cwmpasu sawl gweithgaredd sy’n ceisio hyrwyddo teithiau Teithio Llesol.

Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gyflwyno mapiau i'w cymeradwyo gan weinidogion. Isod mae copïau o’r Adroddiadau Cynnydd Blynyddol Teithio Llesol sydd wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi diweddaru ei Fap Rhwydwaith Integredig i greu Map Rhwydwaith Teithio Llesol sy'n dangos y llwybrau cerdded a seiclo presennol a lle mae gwelliannau neu lwybrau newydd wedi cael eu cynnig. Mae hyn wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae’r map ar gael i’w weld isod. 

Mae bron i 400 o welliannau llwybrau cerdded a beicio wedi cael eu nodi. Mae’r llwybrau wedi cael eu hasesu er mwyn sicrhau bydd y gwelliannau arfaethedig yn cwrdd â'r safonau ar gyfer llwybrau teithio llesol sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn fap uchelgeisiol sy'n nodi cynigion Teithio Llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Mae datblygu a darparu cynigion y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dibynnu ar argaeledd cyllid ar gyfer cynlluniau Teithio Llesol. Mae'r llwybrau sy'n cael eu dangos yn aliniadau dangosol a allai newid wrth i lwybrau gael eu datblygu ymhellach.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y Rhwydwaith Llwybrau Teithio Llesol Presennol neu'r Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol, anfonwch e-bost at teithiollesol@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866595.

Cysylltwch â ni