Darparwyr gofal ychwanegol

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw'r rheoleiddwyr ar gyfer gofal cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n anelu at ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd ac argaeledd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfeirlyfr o wasanaethau gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda AGC ar gael ar wefan AGC.

Mae Gofal Ychwanegol yn cyfuno manteision llety hunangynhwysol o ansawdd uchel, a darparu gwasanaethau gofal a chymorth hyblyg sydd wedi eu lleoli yn y cynllun. Mae'r gwasanaeth yn galluogi tenantiaid i gadw rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol, tra'n derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mewn amgylchedd diogel yn y gymuned.

Mae'r rhestr hon er gwybodaeth yn unig. Nid yw bod ar y rhestr hon yn golygu bod y cyngor yn cymeradwyo’r sefydliad neu’n gwarantu ansawdd ei wasanaeth i gwsmeriaid cyffredinol. At hyn, ni ellir dal y cyngor yn atebol am unrhyw benderfyniad a wnewch ar sail y wybodaeth a roddir ar y rhestr hon.

Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf lle maent ar gael yn cael eu darparu drwy ddilyn y dolenni o dan fanylion y darparwr.

  • Mae Adroddiadau Monitro yn ymwneud ag ymweliadau rheolaidd a gynhaliwyd gan yr Is-adran Monitro Contractau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Mae rhestr termau ar gael er gwybodaeth i chi.
  • Mae adroddiadau Perfformiad Darparwyr yn ymwneud â’r ymweliadau hynny a gynhelir y tu allan i fonitro rheolaidd.
  • Mae ymweliadau Perfformiad Darparwyr yn cael eu cynnal lle mae pryderon cynyddol am ddarparwr ac felly mae angen mwy o fonitro rheolaidd.

Rhest A-Z o gynlluniau tai gofal ychwanegol

Cysylltwch â ni