Iechyd meddwl

Mae problemau iechyd meddwl yn gallu effeithio ar bobl ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac mewn llawer o wahanol ffyrdd. Efallai y byddant yn wynebu problemau ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol o ganlyniad i salwch meddwl neu straen emosiynol difrifol.

Mae ystyried gofyn am wasanaethau iechyd meddwl yn gallu bod yn anodd dros ben y tro cyntaf.  Gyda phwy y dylech chi gysylltu? Beth fyddan nhw'n ei wneud? Faint o reolaeth fydd gennych chi? A yw’n debygol o weithio?

Os ydych yn teimlo eich bod yn colli arnoch eich hun yn emosiynol, neu’n poeni bod gennych broblem iechyd meddwl yna, yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu.

Gall eich meddyg teulu:

  • Siarad am eich problemau
  • Ystyried ai rhywbeth corfforol sy'n achosi'r problemau
  • Rhoi moddion i chi er mwyn trin eich iselder, gofidiau a chyflyrau eraill
  • Gofyn i chi fynd i weld cwnselydd
  • Eich anfon i ysbyty
  • Eich cyfeirio at wasanaeth priodol 

Gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

Fel arfer caiff pobl eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol gan eu meddyg. Os oes gennych weithiwr cymdeithasol, y gweithiwr cymdeithasol fydd yn eich cyfeirio at y gwasanaeth. 

Mae ein Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnig cyngor, triniaeth, gofal a chymorth parhaus i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl i fyw yn eu cartrefi. Mae staff yn gweithio i nifer o asiantaethau, gan gynnwys nyrsys, therapyddion galwedigaethol, seiciatryddion ymgynghorol, seicolegwyr a gweithwyr cymorth.

Mae gwasanaethau arbenigol pellach ar gael yn ogystal:

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol yn cynnig:

  • Asesiadau iechyd meddwl trylwyr i unigolion sydd wedi cael eu gweld yn gyntaf gan eu meddyg teulu, ond bod y meddyg teulu yn meddwl bod angen cynnal asesiad manylach; mewn rhai achosion, gall unigolion gael eu cyfeirio gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd; 
  • Triniaeth tymor byr, un ai’n unigol neu drwy waith grŵp. Gall y driniaeth hon gynnwys cwnsela, ystod o ymyriadau seicolegol gan gynnwys therapiau emosiynol ac ymddygiadol, rheoli straen, rheoli dicter ac addysg;
  • gwybodaeth a chyngor i unigolion a’u gofalwyr ynghylch triniaeth a gofal, gan gynnwys y dewisiadau sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'u cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill (megis cymorth a ddarperir gan sefydliadau trydydd sector);
  • cymorth a chyngor i feddygon teulu a gweithwyr iechyd eraill (megis nyrsys meddygfeydd) i’w galluogi i reoli a gofalu am bobl â phroblemau iechyd meddwl yn ddiogel;
  • Cefnogi a chydlynu’r camau nesaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, os teimlir bod hynny’n briodol i’r unigolyn. 

Anelir y gwasanaethau hyn at unigolion â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol, neu sefydlog ond difrifol a hirhoedlog.  

Mae’r Gwasanaeth Allgymorth Cadarn yn gweithio yn ddyfal â phobl sy’n wynebu problemau difrifol a chymhleth.  Mae’r rhain yn bobl sy’n dueddol o ddatgysylltu â gwasanaethau a chael sawl pwl o anhwylder a'u derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i hynny. Yn draddodiadol mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod yn cael eu darparu mewn swyddfa neu leoliadau mewn ysbytai lle bydd y client yn dod i weld y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ar adeg benodol a drefnwyd ymlaen llaw.  Yn y maes allgymorth cadarn, y gweithiwr sydd yn mynd i weld y cleient yn ei amgylchedd ef neu hi – boed hynny yn y cartref, mewn caffi, parc neu yn y stryd - ble bynnag y mae ei angen fwyaf a mwyaf effeithiol.

Mae Gwasanaeth Fforensig Gwent yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r system gyfreithiol o ganlyniad i’w problemau iechyd meddwl, ac sydd angen amgylchedd ddiogel fel unedau cleifion allanol arbenigol ac ysbytai diogel i’w galluogi i fanteisio ar ystod eang o driniaethau, therapiau a gofal i’w helpu i wella. Mae'r rhan fwyaf o'n defnyddwyr gwasanaeth dan reolaeth Deddf Iechyd Meddwl 1983 a 2007. Mae’r gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth prawf a’r llysoedd yn cyfeirio pobl at y gwasanaeth hwn.

Mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn darparu gwasanaethau arbenigol, megis gofal dementia, gwasanaethau preswyl a gofal byr a gofal dydd mewn cyfleusterau preswyl a gofal dydd ledled y fwrdeistref sirol.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol yn gweithio gyda phobl sy’n gwella ar ôl cyfnod o salwch meddwl ac sydd angen cymorth i sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran gwella a chael cefnogaeth barhaus i gyflawni gweithgareddau bob dydd. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl sy’n gysylltiedig â’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ar hyn o bryd neu sydd wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaeth ar ôl cael eu gollwng o’r ysbyty â’r nod o'u helpu i wella.

Mae’r Gwasanaeth Asesiadau Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy a Gynhelir yn Ystod y Dydd y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth presennol y gwyddir eu bod mewn perygl o’u lladd neu eu niweidio eu hunain. Bydd y gwasanaeth yn asesu pobl y teimlir eu bod mewn perygl gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol a bydd yn darparu gwasanaeth, gwybodaeth a chyngor priodol neu yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill.

Caiff atgyfeiriadau i’r gwasanaeth iechyd meddwl eu cyfeirio at Bwynt Cyfeirio Canolog Integredig y Fwrdeistref sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth.  Gellir cysylltu â'r gwasanaeth drwy ffonio 01443 802673.

Sefydliadau ac asiantaethau sy’n cynnig cymorth

Llinell Gymorth CALL Cymru - Gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol i bobl yng Nghymru   Ffôn:   0800 132 737
Gwefan llinell gymorth C.A.L.L.

Hafal · Elusen yng Nghymru ar gyfer pobl sydd â salwch iechyd meddwl difrifol
Ffôn: 01792 816600
E-bost: hafal@hafal.org
Gwefan Hafal

Gofalwyr Cymru Wales
Ffôn: 029 2081 1370
E-bost: info@carerswales.org
Gwefan Gofalwyr Cymru

Mind · Mae Mind yn cynnig llawer o wasanaethau gan gynnwys llinellau cymorth, canolfannau galw heibio, tai cymorth, cwnsela, cynllun cyfeillio, eiriolaeth, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant.
Llinell wybodaeth: 0845 7660163
E-bost: contact@mind.org.uk
Gwefan Mind

Rethink · Cymorth a chyngor i bawb y mae salwch meddwl difrifol yn effeithio
Ymholiadau cyffredinol: 0845 456 0455
Gwasanaeth cynghori cenedlaethol: 020 7840 3188
E-bost: info@rethink.org
Gwefan Rethink

Sane - Mae Sane yn cynnig gwybodaeth, gofal mewn argyfwng a chymorth emosiynol.
Llinell gymorth: 0845 767 8000
E-bost: info@sane.org.uk
Gwefan Sane

No Panic - Cymorth i bobl sy’n dioddef pyliau o banig, ffobias, anhwylderau obsesiynol cymhellol ac anhwylderau cyffredinol yn ymwneud â gofidiau.
Llinell gymorth: 0808 808 0545
E-bost: ceo@nopanic.org.uk
Gwefan No Panic

Cruse Bereavement Care - Mae Cruse yn cynnig help i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth, gwasanaeth cwnsela, cynghori a chyhoeddiadau am ddim.
Ffôn: 020 8939 9530
Llinell gymorth 'O ddydd i ddydd’: 0844 477 9400
E-bost: helpline@cruse.org.uk
Llinell Gymorth i Bobl Ifanc: 0808 808 1677
E-bost: info@rd4u.org.uk
Gwefan Cruse Bereavement Care

Depression Alliance - Yr elusen hon yw’r brif elusen sy’n ymwneud ag iselder yn y DU ac mae ganddi rwydwaith o grwpiau hunan-gymorth.
Ffôn: 0845 123 2320
E-bost: information@depressionalliance.org
Gwefan Depression Alliance

Depression UK (D-UK) - Elusen hunangymorth sy’n annog unigolion y mae iselder yn effeithio arnynt i helpu ei gilydd drwy wahanol gynlluniau a chylchlythyr yn cynnwys cyfraniadau gan aelodau.
E-bost: info@depressionuk.org
Gwefan Depression UK

National Self-Harm Network - Cymorth i bobl sy’n niweidio eu hunain drwy gynnig gwybodaeth, cysylltiadau a gweithdai.
E-bost: hnshncg@hotmail.co.uk
Gwefan National Self Harm Network

Cysylltwch â ni