Cymorth a therapi gartref 

Rhaglen tymor byr o gymorth a therapi dwys yn eich cartref chi yw Ailalluogi. Gall y cymorth gynnwys mewnbwn gan Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Rheolwyr Achos a Gweithwyr Cymorth hyfforddedig i sicrhau bod gennych y gweithrediadau mwyaf posibl ac i’ch galluogi i barhau i fyw yn eich cartref eich hun, yn hytrach nag aros yn yr ysbyty neu gael eich derbyn i ofal tymor hir. 

Os ydych wedi cael eich asesu fel rhywun mae arno angen cymorth ail-alluogi, bydd y cymorth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion, gan ganolbwyntio ar eich helpu i fod mor annibynnol ag sy’n bosibl. Gallai hyn gynnwys:

  • sgiliau cegin
  • symudedd
  • diogelwch yn y cartref
  • cyngor ymarferol ar sut i gyrraedd cyfleusterau’r gymuned ehangach, gan gynnwys siopa, hamdden ac addysg 

Ein prif nod yw gweithio gyda chi i’ch helpu i fod mor annibynnol ag sy’n bosibl gyda gweithgareddau pob dydd. 

Bydd aelod o’r tîm yn ymweld â chi i gytuno ar eich amcanion ac i gynllunio’ch ymweliadau beunyddiol. Bydd amser a hyd yr ymweliadau’n dibynnu ar ein hanghenion a byddant yn newid. Wrth ichi nesáu at gyflawni’ch amcanion a ddod yn fwy annibynnol, bydd lefel y cymorth rydym yn ei ddarparu yn gostwng.

Pa mor hir fydd y gwasanaeth ar gael?

Gwasanaeth tymor byr yn unig yw hwn a bydd yn dod i ben pan fyddwch yn cyflawni’ch amcanion. Bydd yr amser mae hyn yn ei gymryd yn wahanol i bob unigolyn ond y cyfnod hiraf y gallwn weithio gyda chi yw 6 wythnos ar y mwyaf. 

Beth sy’n digwydd pan ddaw’r gwasanaeth i ben?

Gobeithio na fydd arnoch angen rhagor o gymorth gennym ni. Os bydd arnoch angen mwy o gymorth, byddwn yn cysylltu â’r tîm neu’r asiantaeth gywir i drefnu unrhyw ofal a chymorth parhaus mae arnoch eu hangen.

Cysylltwch â ni