Larwm Cymunedol 

Mae'r gwasanaethau teleofal (a elwir yn larwm cymunedol) yn cynnig tawelwch meddwl i bobl sy’n teimlo bod risg iddynt yn eu cartrefi eu hunain. 

Mae’n wasanaeth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn sy’n rhoi'r rhyddid i chi fyw eich bywyd yn annibynnol gan wybod y gallwch gael cymorth pan fo’i angen arnoch. 

Mae’r gwasanaeth teleofal yn gallu cynnig amrywiaeth o offer teleofal i gleientiaid sydd wedi cael asesiad a hwnnw'n nodi teleofal fel rhan allweddol o becyn gofal. 

Mae offer teleofal yn cynnwys synwyryddion diogelwch megis synwyryddion carbon monocsid, synwyryddion tymereddau eithafol, botymau galwadau ffug a synwyryddion mwg.  Mae synwyryddion eraill y gellir eu darparu lle nodwyd angen yn cynnwys synwyryddion gwely, synwyryddion disgyn, synwyryddion epilepsi, synwyryddion eniwresis a synwyryddion symud.  Gall teleofal hefyd gynnig arwyddion allweddol, offer monitro a chyfleuster i atgoffa’r cleient i gymryd ei feddyginiaeth. 

Sut mae’r gwasanaeth teleofal yn gweithio 

Mae’r gwasanaeth teleofal yn gweithio trwy uned larwm arbennig sydd wedi’i gysylltu i’r llinell ffôn.  Mae hyn yn eich galluogi i alw am help unrhyw bryd drwy bwyso larwm crogdlws a wisgir o amgylch eich gwddf. 

Mae hwn yn eich cysylltu â chanolfan ymateb lle bydd gweithredwyr cymwys wrth llaw i gynnig cymorth i chi.  Gall y cymorth hwn gynnwys cysylltu ag aelod o’ch teulu, ffrind, neu roi gwybod i’r gwasanaethau brys. 

Gellir cysylltu synwyryddion teleofal i uned larwm sylfaenol pan fo angen monitro mwy cymhleth. 

Fydda i’n gymwys? 

Mae’r gwasanaethau teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw mewn llety cyngor neu breifat ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, cyhyd â’u bod yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol: 

  1. Mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn berson hŷn a/ neu agored i niwed a aseswyd fel rhywun sy’n bodloni'r meini prawf cymhwyster
  2. Mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn byw ar ei ben ei hun neu’n cael ei adael ar ei ben ei hun yn aml 

Dylid ystyried y sbardunau canlynol fel dangosyddion posibl ar gyfer Teleofal. Mae’r defnyddiwr gwasanaeth:  

  • yn agored i niwed a gallai fod yn agored i amrywiaeth o risgiau amgylcheddol a chymdeithasol yn y cartref a’r ardal gerllaw.
  • â symudedd cyfyngedig
  • yn cael problemau gyda’i gof
  • wedi disgyn yn ystod y 6 mis cyn yr asesiad
  • ofn disgyn yn ei gartref
  • wedi’i ddiagnosio ag un neu fwy o gyflyrau cronig
  • yn dychwelyd i’r gymuned ar ôl cyfnod o ofal seibiant neu gyfnod yn yr ysbyty
  • yn cael anawsterau corfforol a / neu wybyddol ar ôl cael strôc 

Rhagor o wybodaeth 

Os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth teleofal i chi’ch hun neu aelod o’ch teulu, ffoniwch y Gwasanaethau Teleofal am becyn gwybodaeth ar 01443 873656 neu anfonwch e-bost at caerphillycareline@caerphilly.gov.uk.

Gallwch hefyd lawrlwytho’r dogfennau canlynol: 

Cysylltwch â ni