FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Adnoddau hyfforddi

Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i ofalyddion megis e-ddysgu, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau gwybodaeth.

Defnyddiwch ein adnodd Chwilio Digwyddiadau i weld y rhestr ddigwyddiadau gyflawn, gweld manylion am bob digwyddiad a bwcio ar-lein.

Gofalu Amdanaf I – Cyrsiau Am Ddim i Ofalyddion

Mae hwn yn gwrs am ddim yn benodol ar gyfer y bobl hynny sy’n gofalu am rhywun arall sydd â chyflwr iechyd hirdymor. Enw’r cwrs yw ‘Gofalu Amdanaf I’ ac mae’n helpu gofalyddion i ddysgu sut i ofalu am eu anghenion iechyd eu hunain wrth ofalu am berson arall ac ymdopi â'r sefyllfa honno. Mae’r cwrs hefyd yn eu helpu i feithrin yr hyder i gael mwy o reolaeth ar eu bywyd ac yn rhoi'r cyfle iddynt gwrdd ag eraill sy'n rhannu profiadau tebyg.

Mae’r cwrs yn agored i unrhyw oedolyn sy’n ofalydd (nid oes rhaid iddynt fod yn dioddef ag unrhyw gyflwr iechyd eu hunain i ddod ar y cwrs). Caiff ei redeg yn y gymuned leol a'i arwain gan ddau diwtor gwirfoddol sydd eu hunain â phrofiad o ofalu.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Gofalu Amdanaf I yn eich ardal leol, cysylltwch â

Susan Arnold
Cydlynydd EPP Cymru 
Cymdeithas Sefydlaidau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
16A Sgwâr y Farchnad 
Brynmawr
Glyn Ebwy
NP23 4AJ
Ffôn: 01495 315626

Ffôn: 01495 315626

E-bost: sue.arnold@gavowales.org.uk

Taflen Gofalu Amdanaf I

Y Rhaglen Demensia Agored

Rhaglen ddysgu ar-lein yw hon ar gyfer unrhyw un sy’n dod i gysylltiad gyda rhywun â demensia. Mae'r rhaglen yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i'r clefyd a'r profiad o fyw â demensia.

www.scie.org.uk/publications/elearning/dementia/index.asp

Stroke4Carers

Cwrs dysgu ar-lein yw hwn mae'n cynnig gwybodaeth, cymorth a gwybodaeth i ofalyddion a theuluoedd pobl sydd wedi cael strôc.

www.stroke4carers.org

Cyngor a Hyfforddiant Iechyd Cymunedol – Gweithdai Hunangymorth (CHAT)

Menter gymdeithasol fach ei maint yw hon sy’n gweithio i helpu i addysgu unigolion a’u teuluoedd ar faterion yn ymwneud â phoen meddwl/iselder a'r clefyd deubegynol/hwyliau oriog, drwy gynnal gweithdai codi ymwybyddiaeth.

Nod y gweithdai, a gynhelir cynnal mewn cymunedau lleol, yw cynnig gwybodaeth gam wrth gam er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd ddeall eu cyflwr. Cynhelir yr holl weithdai dan law hyfforddwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o gyflwr iechyd meddwl. 

I gael rhagor o wybodaeth ar ba weithdai sydd ar gael, ewch i wefan CHAT neu ffoniwch 07780611367.

Dysgu Agored Cymru

Cartref dysgu am ddim o’r Brifysgol Agored Cymru 

Mae hwn yn gwrs datblygu personol ar gyfer gofalyddion yng Nghymru. Bydd yn eich helpu i adnabod ac adlewyrchu ar eich profiadau, diddordebau a sgiliau a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Edrychwch ar y wefan am wybodaeth bellach

Cysylltwch â ni