Gofalu amdanoch eich hun

Gall gofalu fod yn waith boddhaol ond gall hefyd eich blino, gan effeithio ar egni corfforol ac emosiynol. Fel gofalyddion mae gofyn i chi fod mor iach â phosibl i sicrhau eich bod yn gallu parhau gyda’ch rôl. Mae'n hawdd, wrth ymdopi o ddydd i ddydd ac ymateb i anghenion pobl eraill, anghofio am eich lles eich hun.

Yn anffodus, mae un gofalydd o bob pump yn dweud bod eu hiechyd yn dioddef o ganlyniad uniongyrchol i ofalu. Er enghraifft, heb hyfforddiant priodol mae gofalyddion yn agored iawn i broblemau gyda’u cefnau. Mae rhan o’r problemau iechyd mwyaf difrifol y mae gofalyddion yn dioddef ohonynt, megis clefyd y galon neu waeledd meddyliol, yn ganlyniad uniongyrchol i straen.

Mae gofalu heb seibiant, heb gwsg digonol a heb gymorth yn achosi llawer o straen. Mae’n bwysig eich bod yn cydnabod hynny ac yn ei ystyried o ddifrif. Cofiwch, gall dim ond y seibiant byrraf wneud gwahaniaeth, felly ceisiwch sicrhau eich bod yn gwneud rhywbeth drosoch chi eich hun.

Byw Bywyd Iachach – Gofalu Amdanoch eich Hun

Bwyta’n dda

Rydym oll yn gwybod bod bwyta’n dda yn bwysig, ond pan fyddwch yn gofalu am rywun, yn aml iawn gall fod yn anodd paratoi a bwyta prydau cytbwys, iach a sicrhau eich bod yn cael digon o faeth.

Mae bwyta deiet iach, cytbwys yn hanfodol o ran cynnal iechyd pawb ohonom. Mae hyn yn cynnwys bwyta bwydydd o'r holl grwpiau bwyd gwahanol. Weithiau gall fod yn anodd bwyta digon o rai mathau o grwpiau bwydydd. Mae plât bwyta’n iach yn dangos y dognau o’r grwpiau bwyd gwahanol y mae gofyn i ni eu bwyta bob dydd i sicrhau deiet cytbwys ac iach.

Yn seiliedig ar y plât bwyta'n iach dylech geisio:

  • Bwyta digon o fwydydd startsh - mae bara, grawnfwyd brecwast, tatws a phasta yn ffynonellau egni da. Dewis y rhai grawn cyflawn bob amser os  gallwch.
  • Bwyta digon o ffrwythau a llysiau – ceisiwch anelu at bum dogn y dydd i sicrhau eich bod yn cael digon o fitaminau a mwynau. Mae 1 dogn cyfwerth ag: 1 afal, 1 fanana maint canolig, 7 mefusen, 1 llond llaw o rawnwin, 150ml o sudd oren heb ei felysu, 1 llond bowlen bwdin o salad, 3 llond llwy fwrdd o lysiau cymysg.
  • Bwyta protein - mae cig, pysgod, wyau, ffa oll yn cynnwys llawer o brotein.
  • Bwyta bwydydd llaeth ac yfed llaeth - caws, iogwrt neu dewiswch y mathau braster-isel os ydych yn ceisio cynnwys llai o fraster yn eich deiet
  • Bwyta ond ychydig o fwydydd yn cynnwys llawer o fraster neu siwgr - megis creision, siocled, melysion. 

Awgrymiadau o ran sut i fwyta'n dda ar gyllideb fach

Os ydy arian yn brin, mae rhai ffyrdd syml a fforddiadwy o siopa i sicrhau deiet iach, cytbwys.

  • Defnyddiwch frandiau’r archfarchnadoedd eu hunain yn hytrach na’r brandiau drutach.
  • Chwiliwch am gynigion ar fwydydd sy’n cadw’n dda, megis tuniau o ffa neu domatos.
  • Mae ffrwythau (mewn sudd) a llysiau sych wedi’u rhewi neu mewn tuniau yn rhatach na rhai ffres – a chyn iached.
  • Wrth brynu ffrwythau a llysiau ffres, gall fod yn rhatach eu prynu’n rhydd nac wedi’u pacedu ymlaen llaw. Hefyd, fel arfer mae'n rhatach prynu ffrwythau a llysiau yn eu tymor.
  • Mae archfarchnadoedd yn aml yn gostwng prisiau’r cynnyrch sy’n nesáu at eu dyddiad ‘sell by’ a gall hyn fod yn ffordd wych o gael bargen. Ond byddwch yn sicr y gallwch goginio neu fwyta popeth a brynwch (neu yn gallu ei rewi) cyn iddynt ddechrau mynd yn ddrwg. 
  • Wrth goginio prydau, paratowch dipyn go lew a rhewi'r dognau ychwanegol. Gall hyn fod yn gost-effeithiol ac arbed amser o sicrhau deiet cytbwys. 

Mae’r dogfennau atodedig yn llawn o syniadau, rysetiau cyflym ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer byw bywydau iach:

Gofalyddion a'r pwysigrwydd o fwyta'n dda

Rysetiau bwyta’n gall Newid am Oes

Llyfr rysetiau gofalyddion ifanc

Cysylltwch â ni