Digwyddiadau
NODER: GALL POB GWEITHGAREDD GAEL EI NEWID NEU GAEL EI GANSLO, YN SEILIEDIG AR GANLLAWIAU CYFREDOL Y LLYWODRAETH. EICH CYFRIFOLDEB CHI YW CADW PELLTER CYMDEITHASOL WRTH FWYNHAU GWEITHGAREDDAU GYDA NI, AC RYDYN NI'N TREFNU PETHAU GAN GADW HYN MEWN COF CYMAINT Â PHOSIBL. OS YDYCH CHI WEDI GWNEUD CAIS AM LE DRWY EIN GRŴP AR FACEBOOK, NID OES ANGEN GWNEUD CAIS ARALL.
Mae ein gweithgareddau, digwyddiadau a grwpiau i gyd yn cael eu rhestru yn ein grŵp caeedig ar Facebook, felly, os nad ydych chi'n aelod – neu os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n ofalydd a fyddai, o bosibl, eisiau ymuno – chwiliwch am “Caerphilly County Carers Group” a gwneud cais am ymuno neu wahodd rhywun i ymuno.
Nos Iau 24 Medi 2020, o 5pm ymlaen (ffilm yn dechrau am 6pm). Sinema awyr agored, Casnewydd (Tŷ Tredegar) i wylio ‘Grease’ (PG). Mae gennym ni le i 10 car, gydag uchafswm o 5 person ym mhob car. Mae gennym ni slotiau i fynd i mewn i'r lleoliad am 5pm, 5.15pm a 5.30pm. Noder: Mae ceir mawr – fel cerbydau SUV a cherbydau cludo pobl – yn cael eu caniatáu, ond mae'n bosibl y bydd angen eu parcio nhw tuag at y cefn i ganiatáu i'r cwsmeriaid eraill weld yn well. Nid oes gennym ni docynnau penodol ar gyfer faniau, felly, nid oes modd i ni roi lle i'r rhain. Dyma ddigwyddiad digyffwrdd sy'n caniatáu cadw pellter cymdeithasol, gyda mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau digwyddiad diogel, gan ddilyn holl ganllawiau'r Llywodraeth. Dewch â'ch bwyd a diod eich hun. Cofiwch y popgorn! Dull annatod o gadw pellter cymdeithasol yng nghysur a diogelwch eich car. Toiledau ar gael ar y safle.
Prynhawn Sadwrn 26 Medi 2020, o 1pm ymlaen (ffilm yn dechrau am 2pm). Sinema awyr agored, Casnewydd (Tŷ Tredegar) i wylio ‘The Goonies’ (12A). Mae gennym ni le i 10 car, gydag uchafswm o 5 person ym mhob car. Mae gennym ni slotiau i fynd i mewn i'r lleoliad am 1pm, 1.15pm a 1.30pm. Noder: Mae ceir mawr – fel cerbydau SUV a cherbydau cludo pobl – yn cael eu caniatáu, ond mae'n bosibl y bydd angen eu parcio nhw tuag at y cefn i ganiatáu i'r cwsmeriaid eraill weld yn well. Nid oes gennym ni docynnau penodol ar gyfer faniau, felly, nid oes modd i ni roi lle i'r rhain. Dyma ddigwyddiad digyffwrdd sy'n caniatáu cadw pellter cymdeithasol, gyda mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau digwyddiad diogel, gan ddilyn holl ganllawiau'r Llywodraeth. Dewch â'ch bwyd a diod eich hun. Cofiwch y popgorn! Dull annatod o gadw pellter cymdeithasol yng nghysur a diogelwch eich car. Toiledau ar gael ar y safle.
Nos Mercher 30 Medi 2020, o 4:45pm ymlaen (ffilm yn dechrau am 5:45pm). Sinema awyr agored, Casnewydd (Tŷ Tredegar) i wylio ‘The Greatest Showman’ (PG). Mae gennym ni le i 10 car, gydag uchafswm o 5 person ym mhob car. Mae gennym ni slotiau i fynd i mewn i'r lleoliad am 4:45pm, 5pm a 5:15pm. Noder: Mae ceir mawr – fel cerbydau SUV a cherbydau cludo pobl – yn cael eu caniatáu, ond mae'n bosibl y bydd angen eu parcio nhw tuag at y cefn i ganiatáu i'r cwsmeriaid eraill weld yn well. Nid oes gennym ni docynnau penodol ar gyfer faniau, felly, nid oes modd i ni roi lle i'r rhain. Dyma ddigwyddiad digyffwrdd sy'n caniatáu cadw pellter cymdeithasol, gyda mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau digwyddiad diogel, gan ddilyn holl ganllawiau'r Llywodraeth. Dewch â'ch bwyd a diod eich hun. Cofiwch y popgorn! Dull annatod o gadw pellter cymdeithasol yng nghysur a diogelwch eich car. Toiledau ar gael ar y safle.
Dydd Sadwrn 10 Hydref 2020, 10am. Diwrnod yn y sba i 5 gofalydd yng ngwesty Bryn Meadows Golf & Spa, Maes-y-cwmwr. (Noder: Bydd gofalyddion sydd heb gael lle o'r blaen yn cael blaenoriaeth.) Mae'n cynnwys cinio, a bydd modd archebu yn ystod y bore – bydd cinio am 1.30pm. Bydd modd i chi drefnu unrhyw driniaethau, a thalu amdanyn nhw, yn uniongyrchol â'r sba. Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus YN UNIG tua phythefnos cyn y dyddiad.
Dydd Gwener 23 Hydref 2020, 10am. Diwrnod yn y sba i 10 gofalydd yng ngwesty Bryn Meadows Golf & Spa, Maes-y-cwmwr. (Noder: Bydd gofalyddion sydd heb gael lle o'r blaen yn cael blaenoriaeth.) Mae'n cynnwys cinio, a bydd modd archebu yn ystod y bore – bydd cinio am 1.30pm. Bydd modd i chi drefnu unrhyw driniaethau, a thalu amdanyn nhw, yn uniongyrchol â'r sba. Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus YN UNIG tua phythefnos cyn y dyddiad.
Prynhawn Iau 29 Hydref 2020, 12.30pm. Bowlio a byrger i bontio'r cenedlaethau – ar gyfer 30 o ofalyddion o bob oed. Os hoffech chi wneud cais am le, cysylltwch â ni a dweud sawl lle (plentyn neu oedolyn). Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r rhai llwyddiannus bythefnos ymlaen llaw.
Dydd Gwener 6 Tachwedd 2020, 10am. Diwrnod yn y sba i 10 gofalydd yng ngwesty Bryn Meadows Golf & Spa, Maes-y-cwmwr. (Noder: Bydd gofalyddion sydd heb gael lle o'r blaen yn cael blaenoriaeth.) Mae'n cynnwys cinio, a bydd modd archebu yn ystod y bore – bydd cinio am 1.30pm. Bydd modd i chi drefnu unrhyw driniaethau, a thalu amdanyn nhw, yn uniongyrchol â'r sba. Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus YN UNIG tua phythefnos cyn y dyddiad.
Dydd Sul 22 Tachwedd 2020, 10am. Diwrnod yn y sba i 5 gofalydd yng ngwesty Bryn Meadows Golf & Spa, Maes-y-cwmwr. (Noder: Bydd gofalyddion sydd heb gael lle o'r blaen yn cael blaenoriaeth.) Mae'n cynnwys cinio, a bydd modd archebu yn ystod y bore – bydd cinio am 1.30pm. Bydd modd i chi drefnu unrhyw driniaethau, a thalu amdanyn nhw, yn uniongyrchol â'r sba. Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus YN UNIG tua phythefnos cyn y dyddiad.
Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael i’r rhan fwyaf o weithgareddau a digwyddiadau ond rydyn ni’n ceisio rhannu’r rhain yn deg. I holi am unrhyw un ohonyn nhw, cysylltwch â ni.
D.S. OS RHOWCH EICH ENW I LAWR AM RYWBETH AC NID YDYCH YN CLYWED WRTHYM EICH BOD WEDI LLWYDDO, DYLECH GYMRYD NAD YDYCH WEDI CAEL LLE. NID YW CLUDIANT YN CAEL EI DDARPARU OND LLE DYWEDIR HYNNY.
Telir am yr HOLL weithgareddau hyn er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad o ofalyddion a’r gwaith caled rydych chi’n ei wneud. Rydyn ni bob amser yn ceisio sicrhau bod pawb sy’n dangos diddordeb yn cael cyfle i fynd i o leiaf un digwyddiad neu weithgaredd.
Rydyn ni’n gwybod bod pethau’n digwydd weithiau sy’n olygu na allwch ddod ar y diwrnod, ond lle bo modd gofynnwn ichi roi gwybod inni cyn gynted ag yr ydych yn gwybod na allwch ddod, er mwyn inni gynnig lleoedd prin i ofalyddion eraill.
Bydd mwy i'w hychwanegu trwy gydol y flwyddyn, gwiriwch yma am ddiweddariadau.
Anfonwch eich barn atom
Yn ein grwpiau cefnogi gofalyddion, rydym wedi bod yn gofyn i'r rhai ohonoch sy'n mynychu pa fathau o bethau yr hoffech chi weld mwy ohonynt. Cafwyd sôn am sesiynau maldod, teithiau i’r theatr, blasu gwinoedd, prydau o fwyd a thocynnau rygbi, felly rydym yn gwneud ein gorau i wireddu’r ceisiadau hyn ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Rydym hefyd wedi cael syniadau da iawn eraill am fwy o weithgareddau ar benwythnosau a nosweithiau ar gyfer y rheini ohonoch sydd yn yr ysgol neu’r coleg neu’n gweithio, ac rydym wedi eu cymryd. Anfonwch e-bost o’ch awgrymiadau at gofaddylion@caerffili.gov.uk