FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Asesiadau gofalyddion

Asesiad gofalydd yw eich cyfle i ddweud wrthym ni am eich sefyllfa. Gallwch ddweud wrthym am yr hyn a wnewch, sut mae gofalu yn effeithio arnoch a pha fath o help yr hoffech ei gael.

Weithiau, mae gofalyddion yn gofidio am siarad â ni oherwydd eu bod yn teimlo teyrngarwch, euogrwydd, ofni methu ag ymdopi, neu falchder. Peidiwch â gadael i'r teimladau hyn eich rhwystro rhag cysylltu â ni. Drwy roi gwybod i ni am eich sefyllfa, gallwn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth a chyngor a all fod yn ddefnyddiol i chi.

Gallwch ofyn am asesiad gofalyddion drwy ffonio Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth  

Cynllunio ar gyfer eich asesiad gofalydd

Cyn cael eich asesiad gofalydd, ceisiwch neilltuo amser i ofyn rhai cwestiynau i chi'ch hun am eich rôl gofalu. Gall y ddogfen isod eich helpu i ganolbwyntio ar y materion sy’n bwysig i chi a’r rhai y mae angen cyngor, cymorth, gwybodaeth ac atebion ymarferol arnoch yn eu cylch i'ch helpu â'ch sefyllfa.

Cynllunio ar gyfer eich asesiad gofalydd

Gall pobl ag anableddau dysgu fod yn ofalyddion hefyd

Fel gofalyddion eraill, mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn hapus i ofalu am eraill ac yn falch o’r hyn y maent yn ei wneud. Fodd bynnag, fel gyda gofalyddion eraill, maen nhw hefyd angen help a chymorth i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r math a faint o ofalu y maent yn ei wneud.

Mae’r pecyn isod wedi’i gynllunio i fod yn adnodd yn y gellir gweithio trwyddo i helpu person ag anableddau dysgu i feddwl am y tasgau gofalu y maent yn eu gwneud a’r help a’r cymorth y gall fod ei angen arnynt a’u cynnwys yn eu hasesiad gofalyddion.

Cysylltwch â ni