AskSARA (Ask Sara)

Gwneud bywyd yn haws mewn tri cham syml gyda AskSARA...

Cyngor diduedd am offer i helpu i wneud bywyd bob dydd yn haws

Mae AskSARA yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gynhyrchion sy'n gwneud bywyd bob dydd yn haws.

Mae AskSARA yn offeryn cyngor dan arweiniad ar-lein a grëwyd mewn partneriaeth â rhaglen Living Made Easy y Sefydliad Byw i'r Anabl. Mae'n rhoi cyngor diduedd am atebion technoleg gynorthwyol addas sy'n galluogi pobl hŷn, a phobl anabl o bob oed, i fyw'n annibynnol a chynnal eu dewis o ffordd o fyw.

Ewch at ein gwefan a chymerwch y tri cham hawdd hyn:

1- Dewis pwnc

2- Ateb rhai cwestiynau

3- Mynnwch gyngor

GWEFAN ASKSARA