Cronfa'r Degwm - Grantiau i Unigolion

Pwy sydd â hawl i wneud cais?

Mae grantiau o hyd at £1,500 am uchafswm o dair blynedd ar gael i unigolion 'eithriadol' mewn perthynas â hyrwyddo addysg. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'r hyn sy'n eu gwneud yn 'eithriadol' a pha bwrpas y byddai unrhyw grant yn cael ei ddefnyddio tuag ato. Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae cyllid cyfyngedig ar gael ac nid oes sicrwydd y bydd unrhyw gais yn cael ei gefnogi.

Sut i wneud cais

I wneud cais am gyllid mae angen i chi lenwi ffurflen gais. Mae'r rhain ar gael gan Vicki Doyle, Uned Polisi, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG. Ffôn: 01443 866391. E-bost: doylevm@caerphilly.gov.uk.

Pa lefel o grant sydd ar gael?

Bydd grantiau o hyd at £1,500 am uchafswm o dair blynedd yn cael eu hystyried ar gyfer unigolion 'eithriadol'. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus yn eu blwyddyn gyntaf ailymgeisio am grant yn eu hail a'u trydedd flwyddyn.

Pa mor aml y caiff ceisiadau eu hystyried?

Mae'r cynllun grant yn agor ar 1 Mai bob blwyddyn a gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw bryd. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan y Panel Grantiau i'r Sector Gwirfoddol yn eu cyfarfodydd ym mis Mawrth, Gorffennaf a Thachwedd. Byddant yn ystyried yr holl geisiadau ac yn gwneud argymhellion i'r Pennaeth Cyllid Corfforaethol lle y dylid eu cefnogi. Bydd y Panel yn penderfynu a yw ymgeisydd yn 'eithriadol' o ran natur.