Covid-19 Gwasanaeth dosbarthu prydau ysgol am ddim
Bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu yn yr wythnos yn cychwyn 18/01/21. Bydd bocs prydau 10 diwrnod yn cael ei ddarparu i bob disgybl sydd wedi'i gofrestru i dderbyn dosbarthiad prydau ysgol am ddim. Mae'r manylion am gynnwys y bocsys hyn i'w gweld isod. Noder, ni fydd unrhyw ddosbarthiadau yn digwydd yn yr wythnos yn cychwyn 25/01/21.
Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru eto mewn perthynas â'r wythnos yn cychwyn 1/02/21.
Rydyn ni'n gallu darparu ar gyfer plant sydd ag alergeddau/anoddefiadau bwyd meddygol. Os oes gan eich plentyn cyflwr meddygol sy'n gorfodi deiet therapiwtig penodol sydd wedi'i gadarnhau gan feddyg neu ddeietegydd cofrestredig, cysylltwch â ni ar 01443 864055.
Os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth dosbarthu prydau ysgol am ddim ond hoffech chi eu derbyn, neu hoffech chi eu canslo, cysylltwch â ni ar arlwyo@caerffili.gov.uk neu 01443 864055. Os ydych chi'n dewis yr opsiwn e-bost, rhowch eich enw, cyfeiriad, enw eich plentyn, dyddiad geni eich plentyn ac enw ei ysgol i ni.
Dosbarthiadau prydau ysgol am ddim yn yr wythnos yn cychwyn 18/01/2021
Bocs cig
- Pizza, ciwbiau o datws perlysiog sawrus a llysiau cymysg ffermdy
- Bysedd pysgod, ciwbiau o datws perlysiog sawrus a brocoli
- Cawl tomato a thafell o fara
- Pasta cyw iâr ac india-corn
- Caserol cig eidion a llysiau
- Cig eidion rhost, pwdin Efrog, tatws rhost, llysiau a grefi
- Selsig, tatws stwnsh a llysiau
- Pizza caws a thomato
- Bysedd pysgod, tatws perlysiog sawrus a llysiau cymysg ffermdy
- Dogn o bysgod, sglodion a phys
- Eitemau ychwanegol:
- Torth o fara
- 1 litr o laeth
- 5 twbaid o hufen iâ siocled
- 5 twbaid o hufen iâ mefus
Bocs Llysieuol
- Rhôl selsig heb gig, tatws stwnsh â chaws, a llysiau
- Selsig llysieuol, ciwbiau o datws perlysiog sawrus a llysiau cymysg ffermdy
- Cawl tomato a thafell o fara
- Tikka llysiau gyda reis
- Caserol llysiau a brocoli
- Tarten lentils, bresych deiliog a llugaeron organig, tatws stwnsh a phys
- Selsig llysieuol, tatws stwnsh a phys
- Brechdan gaws
- Bysedd llysiau, tatws perlysiog sawrus a llysiau cymysg ffermdy
- Bysedd llysiau, ciwbiau o datws perlysiog sawrus a brocoli
- Eitemau ychwanegol sy'n cael eu cynnwys:
- Torth o fara
- 1 litr o laeth
- 5 twbaid o hufen iâ mefus
- 5 twbaid o hufen iâ siocled
Sut i wneud cais
Os yw'ch plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, gallwch chi wneud cais am gyflenwad wythnosol o brydau wedi'u rhewi i'ch drws. I wneud cais am y gwasanaeth hwn, llenwch y ffurflen gais isod.
Gwneud cais am gyflenwad o brydau ysgol am ddim
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch neu fewngofnodi i roi gwybod am broblem, gwneud cais, a thalu am wasanaethau. Os nad ydych chi am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder sbam/post sothach am e-bost actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu y byddwn ni'n eu hanfon atoch chi!
Mae prydau o fwyd yn cael eu dosbarthu bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, ond gall newid. NI FYDDWN yn dosbarthu prydau o fwyd ar ddydd Llun na dydd Gwener.
Os nad yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim a hoffech chi wneud cais, ewch i'r dudalen prydau ysgol am ddim am fanylion am sut i wneud cais. Os yw'n gymwys, bydd prydau o fwyd eich plentyn yn cael eu cynnwys yn y dosbarthiad yr wythnos wedyn.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ar 14 Hydref, y bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim yn cael ei hymestyn i gynnwys yr holl wyliau ysgol tan y Pasg 2021.