Triwantiaeth

Dan y gyfraith, rhaid i blant o oedran ysgol gorfodol – 5-16 oed – sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol fynd yno bob dydd.

Mae rhieni neu ofalwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu plentyn yn mynd i’r ysgol onid oes rheswm dilys dros beidio.

Mae ein hysgolion yn cadw cofnodion presenoldeb plant, a ddangosir ar adroddiadau ysgol eich plentyn a’i gofnodion cyrhaeddiad. Mae’r llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau ar bresenoldeb ysgol, y mae’n rhaid i bob ysgol a rhiant gydymffurfio â nhw. 

Cael trafferth cael eich plentyn i fynd i’r ysgol?

Os ydych yn cael trafferth cael eich plentyn i fynd i’r ysgol neu’n meddwl y gallai fod rheswm pam nad yw eisiau mynd yno, dylech siarad ag athro dosbarth eich plentyn i gael help a chymorth.

Gallwn hefyd gynorthwyo drwy weithio gyda rhieni ac ysgolion. Er enghraifft, pan fydd gan blentyn salwch hirdymor, pan fydd gan deuluoedd broblemau neu pan fydd plentyn yn cael ei fwlio.
Am ragor o wybodaeth am bresenoldeb yn yr ysgol cysylltwch â ni.

Hysbysiadau Cosb Benodedig

O fis Medi 2014, gall pennaeth ofyn i hysbysiad cosb benodedig gael ei gyflwyno os yw presenoldeb plentyn neu berson ifanc sydd wedi’i gofrestru yn yr ysgol yn afreolaidd. Ewch i’r adran diffyg presenoldeb a gwyliau yn ystod y tymor am fanylion.
 

Cysylltwch â ni