Absenoldeb a gwyliau yn ystod y tymor

Gwella presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn flaenoriaeth allweddol, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiadau pwysig i ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol.

Mae Deddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn drosedd i riant fethu "i sicrhau presenoldeb rheolaidd eu plentyn yn yr ysgol".

Mae'r diwygiadau newydd yn cynnwys cynllun hysbysiad cosb. Mae hyn yn golygu y gall pennaeth gofyn am gyhoeddiad Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer presenoldeb afreolaidd plentyn neu berson ifanc sydd wedi cofrestru yn eu hysgol. Mae hyn yn cynnwys disgyblion sy'n mynychu darpariaeth addysg amgen a drefnwyd gan yr awdurdod lleol.

Enghreifftiau o bryd y gellir rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig

  • Absenoldebau heb ganiatâd - Lle mae o leiaf 10 sesiwn (5 diwrnod ysgol) yn cael eu colli i absenoldebau heb ganiatâd; nid oes angen hyn i fod yn olynol. Byddwch yn derbyn hysbysiad ffurfiol gan y Pennaeth yn esbonio'r camau y gellir eu cymryd; 
  • Gwyliau yn ystod y tymor - Nid oes gan rieni'r hawl awtomatig i dynnu eu plant o'r ysgol ar gyfer gwyliau blynyddol a chânt eu hatgoffa o'r effaith posib y gall absenoldebau cael ar gyflawniad y disgybl. Os ydych yn dymuno cymryd gwyliau yn ystod y tymor rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig ymlaen llaw i esbonio'r amgylchiadau ar gyfer y cyfnod o absenoldeb o'r ysgol. Bydd yr ysgol yn ystyried unrhyw gais ar gyfer cyfnod o absenoldeb, gan ystyried ffactorau megis amser o'r flwyddyn a phatrwm presenoldeb cyffredinol, fodd bynnag, dylai rhieni gael gwybod y gall Hysbysiad Cosb Benodedig gael ei chyhoeddi ar gyfer absenoldeb anawdurdodedig o bum diwrnod ysgol olynol neu fwy yn ystod amser tymor, pan mae yna hanes o bresenoldeb afreolaidd.
  • Yn cyrraedd yn hwyr yn barhaus – am o leiaf 10 sesiwn yn cyrraedd yr ysgol yn hwyr ar ôl i'r gofrestr cau (mae dau sesiwn mewn diwrnod ysgol, bore a phrynhawn); 
  • Triwantiaeth – ble mae plentyn neu berson ifanc yn dod i sylw'r heddlu yn ystod oriau ysgol am fod yn absennol eu hysgol gofrestredig heb reswm derbyniol. 

Mae'r diffiniad o 'rhiant' yn cynnwys pob rhiant naturiol, boed wedi priodi ai peidio; ac yn cynnwys unrhyw berson sydd, er nad yw'n rhiant naturiol, â chyfrifoldeb rhiant a/neu'r gofal ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

Côd Ymddygiad Hysbysiadau Cosb Benodedig Addysg (PDF)

Cosbau

  • Talu o fewn 28 diwrnod - £60 y rhiant y plentyn
  • Ar ôl 28 diwrnod a cyn 42 diwrnod - £120 y rhiant y plentyn
  • Ar ôl 42 diwrnod - byddwch yn cael gwŷs i ymddangos gerbron Llys yr Ynadon ar y sail eich bod wedi methu â sicrhau presenoldeb rheolaidd eich plentyn

Mae adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn drosedd i riant fethu â sicrhau presenoldeb eu plentyn yn yr ysgol lle maent wedi'u cofrestru a lle na bod absenoldeb wedi ei awdurdodi gan yr ysgol. Felly os telir y gosb o fewn y terfynau amser uchod, ni chymerir camau pellach mewn cysylltiad â'r tramgwydd. Os na chaiff yr hysbysiad cosb benodedig ei thalu bydd y rhiant/gofalwr yn cael eu herlyn mewn llys ynadon am y drosedd.

Taliad

Gellir gwneud taliad yn bersonol mewn unrhyw un o'n swyddfeydd arian parod yn ystod oriau agor y Swyddfa. Fel arall, gallwch bostio'r taliad gyda ffurflen wedi'i chwblhau gyda siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, at:

Yr Uwch Swyddog Gweinyddol, Gwasanaeth Lles Addysg/Taliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.

Canllawiau ar hysbysiadau cosb am golli'r ysgol yn rheolaidd (PDF 423kb)

Cysylltwch â ni