Plant ar goll o'r system addysg

Ae nifer o resymau pam fod plant a phobl ifanc yn diflannu o'r system addysg ac mewn risg o ‘fynd ar goll'. Mae'r rhesymau yn amrywio o fethu dechrau mewn ysgol newydd neu ddarpariaeth addysgiadol addas neu, yn syml, peidio ail-gofrestru mewn ysgol newydd wrth symud i mewn i'r wlad. 

Mae Deddf Addysg ac Arolygiaeth 2006 yn gosod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol yn Lloegr ac yng Nghymru i wneud trefniadau i adnabod plant a phobl ifanc  o fewn oed addysg orfodol (rhwng 5-16) sydd ar goll o'r system addysg yn eu hardal.

Os ydych yn credu bod plentyn a/neu berson ifanc ar goll o'r system addysg (ym mha bynnag gapasiti), cysylltwch â ni.

Does dim rhaid i chi roi eich manylion personol ond os ydych yn gwneud bydd y manylion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu rhannu gydag unrhyw un heblaw am y Swyddog Cynhwysiad sy'n gyfrifol am weithio gyda phlant ar goll o addysg. 

Cysylltwch â ni