Partneriaid

Cymorth Cyflogaeth Adfywio Cymunedol

Mae ein tîm yn cynnig siop un stop ar gyfer cymorth cyflogaeth. Os ydych chi'n chwilio am waith nawr neu yn y dyfodol, neu'n edrych i newid eich swydd bresennol, dod o hyd i fwy o waith, ailhyfforddi neu ennill cymwysterau - rydyn ni yma i helpu!

Ymweld â'n llyfrgelloedd

Mae llyfrgelloedd yma i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch chi i greu, dysgu ac archwilio.

Mae gennym ni 18 o lyfrgelloedd ledled y sir a staff cyfeillgar a gwybodus wrth law i gynnig cymorth a chyngor.

Gofalu am Gaerffili

Bydd tîm ‘Gofalu am Gaerffili’, tîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnig gwasanaeth brysbennu cydgysylltu ac ymateb canolog newydd i drigolion y Fwrdeistref Sirol hynny sydd angen cymorth ar gyfer materion fel tlodi bwyd, ôl-ddyledion dyled neu rent, unigedd neu unigrwydd. 

Nod ‘Gofalu am Gaerffili’ yw cynnig un pwynt cyswllt i’r unigolyn gyda'r tîm, a fydd yn cynorthwyo’r unigolyn hwnnw i fynd at wraidd ei fater, gan olygu mai dim ond unwaith y bydd angen iddo egluro ei sefyllfa.