Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Mae’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Mae’n rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol hirdymor gyda'r amcan o greu cenhedlaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghymru.

Y Weledigaeth ar gyfer Caerffili

Yma yng Nghaerffili, mae gennym ni uchelgeisiau beiddgar i roi'r cyfleoedd bywyd gorau i bob dysgwr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn drwy ddarparu addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel.

Mae'r Cyngor wedi nodi ‘gwella cyfleoedd addysg i bawb’ fel y cyntaf o'i Amcanion Llesiant, ac mae wedi ymrwymo i raglen fuddsoddi uchelgeisiol o ran Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Er mwyn sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaeth o safon, mae Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy penodol yng Nghaerffili sy’n adolygu achosion i ysgolion gael eu moderneiddio, eu hatgyweirio, eu hadnewyddu, eu hymestyn neu eu hailadeiladu’n rhannol i fodloni’r safonau sydd eu hangen ar gyfer addysgu a dysgu cyfoes. Mae'r tîm yn gallu cynnig ysgolion newydd i ateb y galw neu ddisodli ysgolion presennol nad ydynt bellach yn addas i'r diben.

Mae dwy flaenoriaeth fuddsoddi allweddol:

Amcan Buddsoddi 1:

Darparu isadeiledd addysgol effeithlon ac effeithiol a fydd yn bodloni’r galw am leoedd nawr ac yn y dyfodol.

Amcan Buddsoddi 2:

Gwneud y defnydd gorau o isadeiledd ac adnoddau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ein cymunedau. Bydd hyn yn cynnwys hyblygrwydd ein hasedau er mwyn i ni wneud y mwyaf o leoedd a chyfleusterau sydd ar gael i'n rhanddeiliaid.

Datgarboneiddio

Ar 4 Mehefin 2019, datganodd Cyngor Caerffili 'argyfwng hinsawdd' ac ymrwymodd i leihau ei allyriadau carbon i sero net erbyn 2030. Mae hyn, hefyd, yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r targed o gyflawni sector cyhoeddus di-garbon yng Nghymru erbyn 2030. Mae tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn sicrhau bod datgarboneiddio yn ffactor allweddol yn y dewis o ddeunyddiau, trafnidiaeth a thechnegau adeiladu ar gyfer prosiectau newydd.

Llywodraeth Cymru a Grantiau sy'n Canolbwyntio ar Awdurdodau Lleol

Yn ogystal â chyllid y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, mae'r Awdurdod Lleol wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am nifer o gynigion i Lywodraeth Cymru sydd wedi'u cyflwyno dros y blynyddoedd. Mae'r tîm yng Nghaerffili wedi ymrwymo i ddefnyddio cyllid grant i ddatblygu ysgolion bro gyda chyfleusterau sy'n hygyrch i'r cyhoedd. 

Rydyn ni'n croesawu adborth am y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, felly, cysylltwch â ni ar 01443 864817 neu e-bostio YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk.

Cysylltwch â ni