Cwestiynau cyffredin am Oleuo rhannol yn ystod y nos a gwaith trosi LED

Mae'r Cyngor wedi cwblhau rhaglen i drosi holl lampau stryd y Fwrdeistref Sirol i Ddeuodau Allyrru Golau (‘LED’) a hefyd weithredu goleuadau am ran o'r nos rhwng hanner nos a 05:30, ac eithrio wrth ymyl cyffyrdd ac yng nghanol trefi mawr. Dechreuodd y rhaglen ar ddechrau Ebrill 2019.

A all Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddiffodd goleuadau yn gyfreithiol?

Nid oes gofyniad statudol ar awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig i ddarparu goleuadau cyhoeddus.  Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi pŵer i Awdurdod Priffyrdd ddarparu goleuadau ar gyfer unrhyw briffordd neu briffordd arfaethedig sydd o dan eu cyfrifoldeb.  Mae gan Awdurdodau Priffyrdd ddyletswydd gofal i ddefnyddwyr ffyrdd, ond nid yw hyn yn awgrymu unrhyw ddyletswydd ar yr Awdurdod Priffyrdd i gadw'r goleuadau stryd yn weithredol. 

Pam na allwch chi ddiffodd bob yn ail olau yn unig? (1 ym mhob 2)

Ystyriwyd hyn ond ni fydd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei amcanion o ran deilio â chynnydd mewn costau ynni ac arbedion lleihau carbon. Byddai hefyd yn golygu llawer o amrywiadau yn lefel y goleuo stryd, ac nid yw hyn yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer defnyddwyr priffyrdd.

A allaf dalu i gadw'r golau stryd ymlaen y tu allan i fy nhŷ?

Na allwch. Mae goleuo am ran o’r nos i helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gyflawni arbedion ynni goleuadau stryd sy'n cyfrannu at y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac yn lliniaru cynnydd mewn costau ynni ac arbedion lleihau carbon. Mae'r gostyngiad mewn allyriadau carbon yn ymrwymiad i atal bygythiad hirdymor newid yn yr hinsawdd ac y mae lleihau ynni yn chwarae rhan allweddol yn hynny.

Bydd yr arbedion ynni goleuadau stryd yn cyfrannu at Amcan Llesiant 4 yr awdurdod: Amcan Llesiant 4 – Hyrwyddo system gludiant fodern, integredig a chynaliadwy sy'n cynyddu cyfleoedd, yn hyrwyddo ffyniant, ac yn lleihau'r effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd.

A fyddaf yn cael gostyngiad yn fy Nhreth y Cyngor?

Mae treth y cyngor yn gymysgedd o dreth sy'n seiliedig ar eiddo a threth sy'n seiliedig ar bobl ac mae’n cynnwys elfennau ar gyfer holl wasanaethau'r cyngor; mae'n dreth gyfunol, sy'n daladwy yn ei chyfanrwydd yn unol â band perthnasol yr eiddo dan sylw, felly nid yw'n bosibl lleihau unrhyw elfen sy'n mynd tuag at dalu am unrhyw wasanaeth penodol.

Pam fy stryd i?

Bydd cyflwyno goleuo am ran o’r nos a throsi LED ym mhob ardal breswyl yn adlewyrchu dull cyson o oleuo strydoedd ar draws bwrdeistref sirol Caerffili.

Beth fydd yn digwydd os oes cynnydd mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd neu lefelau troseddu pan fydd goleuo am ran o’r nos yn weithredol?

Roedd astudiaeth ddiweddar dan arweiniad Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Llundain, yn canolbwyntio ar droseddau sy’n fwy tebygol o ddigwydd yn ystod y nos, gan gynnwys byrgleriaeth, dwyn cerbyd neu o gerbyd, lladrad, trais ac ymosodiad rhywiol. Yn gyffredinol, nid oedd unrhyw dystiolaeth o gysylltiad rhwng lleihau goleuo strydoedd a mwy o droseddu.

Bydd yr holl ffyrdd yr effeithir arnynt gan y newid hwn mewn polisi yn cael eu monitro am gynnydd yn y nifer o ddamweiniau, a phetai unrhyw faterion yn dod i'r amlwg, bydd tîm Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor yn cymryd camau ymchwilio priodol.

Beth am bobl sy'n rhannol ddall, yn oedrannus neu'n ymgymryd â gwaith sifft?

Nid yw cyflwyno goleuo am ran o’r nos yn seiliedig ar amgylchiadau personol. Dylai'r goleuadau stryd gliriach a mwy penodol a ddarperir gan unedau LED gynorthwyo unigolion â golwg gwael, yn ogystal â helpu i bobl weld pobl sy’n llai abl ar y briffordd neu o'i chwmpas.

A allaf hawlio yn erbyn y cyngor os caf fy anafu yn ystod yr oriau pan na fydd goleuadau stryd yn cael eu goleuo?

Nid oes gofyniad statudol ar awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig i ddarparu goleuadau cyhoeddus.  Nid yw llawer o ffyrdd a llwybrau wedi'u goleuo o gwbl ac mae angen i ddefnyddwyr priffyrdd addasu eu hymddygiad yn ôl yr amodau cyffredinol.

Beth fydd yn digwydd os bydd cost fy ngherbyd/yswiriant cartref yn cynyddu oherwydd goleuo am ran o’r nos?

Er ei bod yn darparu budd a groesewir yn gyffredinol, nid yw'r system goleuadau stryd wedi'i gosod i ddarparu goleuadau diogelwch neu oleuadau ar gyfer mynediad neu allanfa i eiddo. 

Beth fydd cost y rhaglen waith hon?

Tra bod y pris oddeutu £4.2 miliwn fel cyfanswm i'w weithredu i ddechrau, mae'r cyngor wedi llwyddo i gael cyllid Salix o £4.1 miliwn. Mae Salix yn darparu cyllid di-log i'r sector cyhoeddus er mwyn gwella eu heffeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a gostwng biliau ynni.

Beth yw'r arbedion ynni tebygol?

Disgwylir i arbedion ynni blwyddyn lawn fod yn £940,000 a 6,884,477KWh. Ers gweithredu'r polisi hwn, mae'r gyfradd unedau ynni yn kWh wedi cynyddu 13.66%.

Pwy wnaeth y penderfyniad i weithredu goleuo am ran o’r nos?

Ystyriwyd adroddiad ar Gynigion Goleuo ac Arbed Ynni yn y Dyfodol gan y Pwyllgor Craffu Adfywio a’r Amgylchedd trawsbleidiol ym mis Hydref 2018. Cafodd argymhellion y rhaglen eu cymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet yn ystod mis Tachwedd 2018 a chafodd y penderfyniad ei gadarnhau eto gan y Cyngor Llawn ym mis Hydref 2020.

Pam na ymgynghorwyd â phreswylwyr?

Cyn gweithredu'r polisi “Lleihau Oriau Gweithredu Goleuadau Stryd” yn 2012, cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth gydag awdurdodau lleol cyfagos, y Fforwm Busnes, Cynghorau Cymuned a Thref, Partneriaethau Cymunedol, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, adrannau Cyngor, grwpiau anabledd, Gwasanaethau Brys, Ffordd Menter Sirhywi Cyf., Viewpoint Panel, Western Power Distribution, y Fforwm Ieuenctid ac eraill. 

Gofynnwyd hefyd i breswylwyr gymryd rhan mewn arolwg i benderfynu ar eu hopsiynau arbed ynni dewisol, a oedd yn cynnwys goleuo am ran o’r nos helaeth ledled y Fwrdeistref.

Pa fwrdeistref sirol arall sydd wedi cyflwyno goleuo am ran o’r nos?

Mae llawer o awdurdodau cyfagos wedi cyflawni gostyngiad yn oriau gweithredu goleuadau stryd.

A oes modd gosod gorchudd ar fy ngoleuni?

Dewiswyd allbwn golau'r llusernau LED i efelychu'r llusernau sodiwm sy'n cael eu disodli, er os edrychir yn uniongyrchol arnynt, mae'n ymddangos bod y llusern yn fwy disglair. Bydd pob cais am orchuddion yn cael eu hystyried ond yn gyffredinol nid oes angen gosod gorchudd neu ‘loures’ ac yn y mwyafrif o achosion bydd CBS Caerffili angen cyfraniad na ellir ei ad-dalu tuag at gost y gwaith hwn o  £50.00 (gan gynnwys TAW).

Sylwer na fydd gosod unrhyw orchudd yn rhoi sylw llawn i'ch pryderon neu'ch disgwyliadau.

A fydd y polisi'n cael ei adolygu?

Fel cynifer o gynghorau eraill ledled y wlad, gwnaethon ni'r penderfyniad i leihau allyriadau a chostau carbon drwy gyflwyno golau LED newydd yn raddol, ynghyd â gweithredu goleuadau am ran o'r nos (diffodd am hanner nos am bum awr a hanner). Cafodd y rhaglen hon ei chwblhau yn ddiweddar, ac mae ein sefyllfa bolisi bresennol yn nodi'r angen i adolygu effaith y newidiadau hyn ar ôl i gyfnod rhesymol o amser fynd heibio. Bydd yr adolygiad hwn, pan fydd yn cael ei gynnal, yn mesur ac yn ystyried effaith lawn y newidiadau hyn yn ogystal â nodi ein camau nesaf.

Credaf fod troseddau yn fy ardal wedi cynyddu; beth sy'n mynd i gael ei wneud yn ei gylch?

Trwy gydol gweithredu'r rhaglen hon, mae swyddogion wedi cyfarfod â chydweithwyr o Heddlu Gwent i adolygu ein hystadegau trosedd ac unrhyw sylwadau a wnaed, ac rydyn ni wedi mynd i'r afael â'r rhain fesul achos. Gan fod y rhaglen goleuadau stryd wedi'i chwblhau'n ddiweddar, bydd cyfarfodydd rhwng Heddlu Gwent a swyddogion y Cyngor yn parhau bob chwarter i ystyried data troseddau ardal a lleol, a fydd yn cael ei ategu gyda data gan y partneriaethau Diogelwch Cymunedol ac unrhyw ffynonellau data perthnasol eraill. Fodd bynnag, mae Heddlu Gwent wedi nodi, yn yr un modd â'r arolygon cenedlaethol sydd wedi cael eu cynnal eisoes, fel ym Mwrdeistref Sirol Caerffili hyd yma, nad oes cynnydd mewn troseddau sy'n gysylltiedig â lleihau oriau gweithredu goleuadau stryd.

Mae fy ngolau yn “diffodd” cyn 00:00 o'r gloch neu nid yw “ymlaen” pan fyddaf yn gadael am y gwaith am 05:30

Mae'r holl oleuadau stryd y mae'r polisi'n effeithio arnynt i fod i ddiffodd am hanner nos am bum awr a hanner. Diwrnod naturiol yw 23 awr a 56 munud ac nid yw'n cydymffurfio â chyfnod 24 awr. Mae hanner nos solar yn amrywio drwy gydol y flwyddyn galendr gymaint â 15 munud cyn ac ar ôl 00:00 awr gan effeithio ar yr amseroedd “diffodd” a “cynnau”. Mae'r ffotogell sydd wedi'i gosod ar bob llusern a'i lleoliad mewn perthynas â'r gorwel yn cael effaith ar y newid (gan fod gan bob colofn goleuadau stryd ledred/hydred/cyfeiriadedd unigryw) ac ni ellir addasu'r paramedrau hyn. Mae gwneuthurwr y ffotogelloedd wedi datblygu'r offer rheoli hwn i weithredu'n effeithiol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ei leoliad yn hemisffer y gogledd. Gan fod pob ffotogell yn pennu ei weithrediad ei hun ac yn gwneud iawn am y cyfnod tywyll sy'n newid yn naturiol, gallai fod ychydig o amrywio gyda'r newidiadau yn yr amser. Bydd yr amseroedd hyn yn agos at hanner nos yn seiliedig ar oddefgarwch y cynnyrch.

Yn dilyn newid clociau o amser Greenwich (GMT) i amser haf (BST), mae'r goleuadau'n “diffodd”/“cynnau” yn gynnar/hwyr.

Bydd ffotogell y llusern yn cymryd oddeutu 7 diwrnod i ailsefydlu'r newid i hanner nos yn dilyn y newid i amser haf.