Parth Terfyn Cyflymder 20 Mya A Mesurau Gostegu Traffig - Ysgol Gynradd Maes-Y-Cwmwr
Hysbysir
HYSBYSIR drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wrth weithredu ei bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a'i holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn bwriadu gwneud gorchymyn a fydd â'r effaith a ganlyn:-
1. Terfyn cyflymder 20mya ar y darnau o ffordd a ganlyn:
- Tabor Road/Vale View o fan tua 10 metr i'r gogledd o'r gyffordd â Jenkin Street i fan tua 15 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r gyffordd ddeheuol â The Crescent o flaen eiddo rhif 10 Vale View
- Jenkin Street ac Erasmus Terrace
- Chave Terrace o'r gyffordd â Jenkin Street am bellter o tua 12 metr
- Gelli-deg Street o'r gyffordd â Jenkin Street am bellter o tua 7 metr
- The Crescent o'r gyffordd ogleddol â Vale View am bellter o tua 15 metr
HYSBYSIR hefyd drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wrth weithredu ei bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Deddf Priffyrdd 1980 a'i holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn bwriadu gweithredu'r mesurau rheoli traffig a ganlyn ar y ffyrdd a restrir isod:
2. Gosod mesurau gostegu traffig yn y lleoliadau a ganlyn yn Tabor Road/Vale View:
Clustogau arafu 70mm o uchder (1.9m o hyd x 1.75m o led)
- O flaen Eglwys Bedyddwyr Saesneg, Mount Pleasant
- O flaen eiddo rhif 2 Vale View
- Wrth ffin gyffredin eiddo rhif 5 a 6 Vale View
Gellir archwilio copi o'r Gorchmynion arfaethedig, datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchmynion a mapiau sy'n dangos y darnau o ffordd dan sylw ar wefan y Cyngor: www.caerffili.gov.uk/GorchmynionRheoleiddioTraffig. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan yr Isadran Rheoli Traffig ar 01443 866546 neu RheoliTraffig@caerffili.gov.uk.
Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiad i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rheswm dros wneud hynny, drwy e-bostio jameshm@caerffili.gov.uk neu crocks@caerffili.gov.uk erbyn 12/02/2021. Gall gohebiaeth gael ei datgelu yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dyddiad: 21/01/2021
Datganiad O'r Effaith Gyffredinol
Effaith gyffredinol y gorchymyn fydd cyfyngu ar gyflymder cerbydau i gyflymder uchaf o 20 milltir yr awr y tu allan i Ysgol Gynradd Maes-y-cwmwr ar y darnau o ffordd a ganlyn:
- Tabor Road/Vale View o fan tua 10 metr i'r gogledd o'r gyffordd â Jenkin Street i fan tua 15 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r gyffordd ddeheuol â The Crescent o flaen eiddo rhif 10 Vale View
- Jenkin Street ac Erasmus Terrace
- Chave Terrace o'r gyffordd â Jenkin Street am bellter o tua 12 metr
- Gelli-deg Street o'r gyffordd â Jenkin Street am bellter o tua 7 metr
- The Crescent o'r gyffordd ogleddol â Vale View am bellter o tua 15 metr
Datganiad O'r Rhesymau
Bydd y terfyn cyflymder 20mya yn gorchymyn i yrwyr arafu. Bydd hyn yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig er budd plant ysgol a defnyddwyr eraill sy'n agored i niwed ar y ffyrdd ar bwys Ysgol Gynradd Maes-y-cwmwr.
Order
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (‘y Cyngor’), wrth weithredu ei bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (‘y Ddeddf’) a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III o Atodlen 9 i'r Ddeddf, drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Gellir cyfeirio at y Gorchymyn hwn fel Gorchymyn (parth 20 milltir yr awr) (Ysgol Gynradd Maes-y-cwmwr) Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2020, a bydd yn dod i rym ar ____ __________ 2020
2 Ni chaiff neb achosi i unrhyw gerbyd gael ei yrru ar gyflymder o fwy nag 20 milltir yr awr ar y ffyrdd a nodir fel parth 20 milltir yr awr ar y cynllun, sef llun rhif TH1313/1 sydd ynghlwm wrth y gorchymyn hwn.
3 Nid oes dim yn Erthygl 2 yn berthnasol i'r canlynol:
a. Unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys at y diben a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
b. Unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
i. ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
ii. at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel
c. ystyr ‘lluoedd arbennig’ yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Rhoddwyd dan sêl gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ____ __________ 2020
Gosodwyd sêl gyffredin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
yma ym mhresenoldeb
Swyddog Awdurdodedig