Rheoli cyflymder

Mae rheoli cyflymder yn agwedd bwysig ar wella diogelwch ar y ffyrdd. Mae cyflymder amhriodol yn creu problemau i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd, yn enwedig grwpiau agored i niwed megis cerddwyr a beicwyr. Mae cyflymder uwch gan gerbydau’n arwain at y risg o anaf angheuol neu ddifrifol pe bai gwrthdrawiad yn digwydd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent i annog cyflymder priodol gan gerbydau ar ffyrdd yn y fwrdeistref sirol.

Diben rheoli cyflymder yw rheoli cyflymder cerbydau ar lefelau sy’n adlewyrchu anghenion pawb sy’n defnyddio’r ffyrdd, yn ogystal ag anghenion cymunedau a’r amgylchedd. Bydd cyflymder arafach yn arwain at amgylchedd mwy diogel a mwy dymunol i’r sawl sy’n byw yn ein trefi a’n pentrefi, a bydd yn arwain at anafiadau llai difrifol pan fydd damweiniau’n digwydd. Mae’r terfynau cyflymder a gyflwynir ar hyd ffordd yn ystyried rôl a diben y ffordd ac yn ystyried anghenion pawb sy’n defnyddio’r ffordd. Un agwedd bwysig ar asesu terfynau cyflymder yw’r nifer sydd wedi’u hanafu a’u lladd mewn damweiniau traffig ar y ffyrdd – mewn mannau lle ceir hanes o wrthdrawiadau traffig, bydd gostwng cyflymder cerbydau’n lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac yn lleihau difrifoldeb unrhyw anafiadau.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i leihau goryrru

Rydym wedi mabwysiadu strategaeth rheoli cyflymder sy’n canolbwyntio ar annog cyflymder priodol gan gerbydau, sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau a’r amgylchedd. Mae terfynau cyflymder yn pennu’r cyflymder uchaf priodol ar gyfer cerbydau sy’n teithio ar hyd y briffordd. Mae’r strategaeth rheoli cyflymder yn nodi’r camau y mae’n ofynnol eu cymryd os bydd traffig yn teithio’n gyflymach na’r terfyn cyflymder ar hyd ffordd benodol.

Gall goryrru fod yn fater sy’n ennyn teimladau cryfion. Rydym yn cydweithio â Phartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru i osod cyfarpar arbenigol casglu data mewn safleoedd y mae’r cyhoedd yn pryderu amdanynt. Caiff y dyfeisiau bach hyn eu gosod ar bolion goleuadau ac maent yn cofnodi’n gywir faint o draffig a geir a beth yw cyflymder cerbydau drwy gydol y dydd. Fel rheol, caiff y dyfeisiau eu gadael yno am wythnos.

Bydd y data a gesglir yn dangos a oes angen i’r heddlu ymyrryd ymhellach ar y safle i orfodi’r terfyn cyflymder. Gallai lefel is o oryrru arwain at ymgyrch Arwydd a Ysgogir gan Gerbydau, a gaiff ei gynnal gan yr Awdurdod Priffyrdd neu Heddlu Gwent. Ar safleoedd lle mae’r cyfartaledd cyflymder yn uwch na throthwy penodol, bydd y Bartneriaeth Lleihau Anafiadau yn trefnu bod fan â chamera’n cael ei defnyddio i orfodi’r terfyn cyflymder.

Mae Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau yn rhoi gwybod i fodurwyr pan fydd eu cerbyd yn teithio’n gyflymach na’r terfyn cyflymder. Mae’r arwyddion hyn yn bwysig i newid ymddygiad gyrwyr, a chânt eu defnyddio mewn cymunedau lleol lle mae’r trigolion yn pryderu am fodurwyr sy’n goryrru ond lle na fydd lefel y traffig sy’n goryrru yn arwain at ymgyrch gorfodi.

Mewn mannau lle mae cyflymder cerbydau’n llawer uwch na’r hyn sy’n briodol a lle ceir hanes o wrthdrawiadau sy’n arwain at anafiadau personol, caiff dulliau eraill o reoli cyflymder eu hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r modd y caiff ffyrdd eu dylunio, megis culhau’r ffyrdd a gosod twmpathau (clustogau arafu) arnynt.

Mae terfynau cyflymder is o 20mya wedi’u defnyddio mewn rhai ardaloedd lle mae mwy o gerddwyr, yn enwedig ardaloedd ger ysgolion. Naill ai mae gan y ffyrdd hyn fesurau gostegu traffig yn barod, neu mae cyflymder y traffig mewn ystod sydd eisoes yn dderbyniol ar gyfer terfyn o 20mya.

Cysylltwch â ni