Hebryngwyr croesfannau ysgol
Ar hyn o bryd rydym ni'n cyflogi 47 o hebryngwyr croesfannau ysgol ledled y fwrdeistref sirol sydd wedi'u lleoli ar safleoedd ger amrywiol ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn helpu plant, oedolion ifanc ac oedolion i groesi’r ffyrdd yn ddiogel.
Darperir y Gwasanaeth drwy'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ac mae'n cydymffurfio â'n meini prawf ar gyfer iwnifform, recriwtio ac amnewid hebryngwyr croesfannau ysgol. Er bod hebryngwyr croesfannau ysgol yn cael eu darparu, mae rhieni yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch eu plant ar eu taith i'r ysgol ac oddi yno.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.
I gael manylion am brosiectau a gwasanaethau allweddol eraill ewch i’n hadran rhaglen diogelwch ar y ffyrdd i blant a phobl ifanc.