Kerbcraft

Mae Kerbcraft yn dysgu plant 5-7 oed sut i fod yn gerddwyr mwy diogel drwy eu cymryd ar ffyrdd go iawn a dangos iddynt sut y gall gwneud y penderfyniadau a’r ymddygiad cywir eu helpu i gadw'n ddiogel wrth groesi'r ffordd.

Mae'r plant yn cael eu tynnu allan o'r ysgol gan wirfoddolwyr hyfforddedig i ddysgu tri phrif sgil:

  1. Dewis Lleoedd a Llwybrau Diogel i Groesi'r Ffordd - Caiff plant eu helpu i adnabod peryglon a nodi mannau croesi eraill.

  2. Croesi'n Ddiogel ger Ceir sydd wedi Parcio - Dysgir plant sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel ar gyfer croesi ger ceir sydd wedi parcio pan fod eu hosgoi’n amhosib.

  3. Croesi’n Ddiogel ger Cyffyrdd - Cyflwynir plant i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth, a dysgu strategaeth i edrych yn systematig ym mhob cyfeiriad.

Ymarferir pob sgil mewn sawl lleoliad gwahanol o gwmpas yr ysgol dros gyfnod o 12 wythnos unwaith yr wythnos.

Mae'r Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd wastad yn ceisio recriwtio rhieni i wirfoddoli er mwyn helpu'r prosiect hwn i fynd ymlaen. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan  cysylltwch â ni.

Am ragor o wybodaeth  cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

I gael manylion am brosiectau a gwasanaethau allweddol eraill ewch i'n hadran rhaglen diogelwch ar y ffyrdd i blant a phobl ifanc.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd Kerbcraft (PDF)

Cysylltwch â ni