Y Broses Cyn Ymgeisio i'r Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy / Gwasanaethau Ychwanegol

Bydd y gofyniad ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio yn llywio'r broses cynllun a chymeradwyo ar ddatblygiadau. Rydym yn argymell yn gryf bod datblygwyr yn ystyried ymgysylltu'n gynnar yn ystod y dyluniad cysyniadol / cyfnod cyn ymgeisio – yn enwedig ar gyfer safleoedd mawr y bwriedir iddynt gael eu datblygu fesul cam.

Mae buddion cyn ymgeisio yn cynnwys:

  • trafodaeth gynnar er mwyn helpu cyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer eich cais.
  • darparu gwybodaeth i chi am ystyriaethau, risgiau a materion cynllunio ynghylch eich cynnig a sut y gallwch eu goresgyn
  • darparu gwybodaeth i chi ar sut y bydd draenio cynaliadwy yn effeithio ar y cynlluniau datblygu.
  • cyflymu'r broses o wneud cais
  • trafodaeth ynghylch cysyniad dylunio gan ddarparu syniadau cychwynnol ar gyfer rheoli dŵr wyneb o fewn datblygiad, yn unol â Safonau Cenedlaethol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cytuno'r holl fanylion gyda'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a chyrff perthnasol eraill yn ystod y trafodaethau cyn ymgeisio, cyn cyflwyno eu cais. Gall trafodaeth o'r fath ddigwydd cyn prynu tir er mwyn ystyried cynnwys yr SDCau sy'n cydymffurfio. 

Pwy all wneud cais ar gyfer trafodaethau cyn ymgeisio?

Gall unrhyw un wneud cais am gyngor cyn ymgeisio, gan efallai y byddwch am wirio eich bod wir angen Cymeradwyaeth Draenio Cynaliadwy ar gyfer eich cais.

Sut i wneud cais am gyngor cyn-cyflwyno

Er mwyn i gais cyn ymgeisio fod yn gynhyrchiol ac yn werth chweil i bawb ac i roi cyngor, bydd angen cyflwyno gwybodaeth ymlaen llaw.

Mae'r wybodaeth allweddol y dylid ei gwneud ar gael ar gyfer trafodaeth cyn ymgeisio cynhyrchiol yn cynnwys yr isod (heb y wybodaeth hon, bydd yn anodd iawn i ddeall sut y gall SDCau sy'n cydymffurfio / mathau o SDCau eu cyflwyno i'r datblygiad);

  • Asesiad o'r perygl llifogydd o'r holl ffynonellau sydd eisoes yn bodoli
  • Manylion amodau daear / ymchwiliadau safle
  • Manylion tirwedd y safle
  • Manylion llwybrau llif trostir naturiol
  • Manylion cyrsiau dŵr presennol, ffiniau'r safle.
  • Manylion am amgylcheddau sensitif a'u gallu i gael eu heffeithio gan ddatblygiad ac .
  • Egwyddorion Safonau Cenedlaethol a datganiad safonau cydymffurfio

Mae'r gwasanaeth Cyn Ymgeisio yn un ddewisol a darperir manylion y ffioedd sy'n gysylltiedig â gweithgarwch ymgysylltu cyn ymgeisio yn y ddogfen amgaeedig:

Ewch at yr adran cyflwyno cais am gopi o'r ffurflen cyn ymgeisio a chanllawiau ategol.

Nodwch:

Diben y gwasanaethau dewisol yw i'r datblygwr cael cysylltiad cychwynnol â'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i esbonio natur y datblygiad, ac i swyddogion ddod â Safonau Cenedlaethol neu faterion sy'n peri pryder i sylw'r datblygwyr. Ni fydd swyddogion mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddatrys problemau neu ddod i unrhyw gasgliadau terfynol am y cynllun.

Bydd hyn yn gyfle i'r datblygwr i ddod yn ymwybodol o'r safbwyntiau hynny, ac yn eu hystyried wrth gyflwyno cais ffurfiol. Ar yr adeg hynny, ni all y Cyngor adolygu cyflwyniadau dylunio manwl megis cyfrifiadau hydrolig, datganiadau amgylcheddol neu asesiadau hyfywedd. 

Nid yw'r gwasanaethau ychwanegol a ddisgrifir uchod yn rhagfarnu'r penderfyniad ar unrhyw gais.

Byddwn yn darparu gwasanaethau dewisol hyn o fewn 60 diwrnod ar ôl cyflwyno dogfennau perthnasol a ffioedd cysylltiedig. Rhaid talu'r ffioedd llawn ymlaen llaw, ac ni chânt eu had-dalu. Codir TAW ar y gwasanaethau ychwanegol.

Mwy o wybodaeth am Gyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Cysylltwch â ni