Cyngor a chymorth am lifogydd
Mae’r llifogydd diweddar ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi effeithio ar lawer o eiddo ac mae llawer o drigolion a busnesau bellach yn wynebu'r gwaith o lanhau'r difrod.
Bydd y Cyngor yn ceisio cynnig cymaint o help, cyngor a chymorth i chi ag y gall yn ystod yr amser hwn.
Cymorth ariannol i eiddo sydd wedi’u heffeithio
Due to the Covid-19 outbreak and the governments guidelines regarding essential travel and social distancing, some applications for funding have not yet been completed as we have been unable to undertake an assessment of the damage. Please be assured that once we are able we will resume normal service and any outstanding payments for those properties that are eligible will be paid.
Trigolion:
Cyflwynwch gais am gymorth ariannol yma
Busnesau:
Cyflwynwch gais am gymorth ariannol yma
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod wedi neilltuo £250,000 i gynorthwyo’r eiddo y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol oherwydd Storm Dennis.
Efallai y bydd pob cartref (preifat ac eiddo'r Cyngor) sydd wedi'i effeithio yn gymwys i dderbyn £500 a gall busnesau fod yn gymwys i dderbyn £1,000.
Rydym yn gwybod lleoliad y rhan fwyaf o'r eiddo yr effeithiwyd arnynt, felly byddwn yn cysylltu i drefnu taliad fel mater brys,
Eithriadau Treth y Cyngor
Os yw'ch cartref wedi dioddef o ganlyniad i lifogydd yn ystod y stormydd diweddar i'r graddau bod yr eiddo bellach anaddas i fyw ynddo ac yn wag (h.y. heb ei feddiannu a heb ddodrefn), ac mae pawb a oedd yn byw yno wedi symud allan ac yn byw yn rhywle arall tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd, efallai byddwch yn gymwys i dderbyn eithriad o ran treth y cyngor, a all fod yn berthnasol am hyd at uchafswm o 12 mis. Byddwn yn ystyried pob cais fesul achos.
Os ydych chi'n talu treth y cyngor ac rydych chi yn y sefyllfa hon, gallwch wneud cais am yr hyn a elwir yn eithriad Dosbarth A. Mae modd i chi wneud hyn drwy e-bostio trethycyngor@caerffili.gov.uk gan ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- eich enw;
- cyfeiriad yr eiddo yr effeithir arno;
- y dyddiad yr hoffech chi ddechrau hawlio'r eithriad Dosbarth A;
- y cyfeiriad lle rydych chi'n aros am gyfnod dros dro; a
- eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost rhag ofn y bydd angen i ni wirio rhywbeth gyda chi.
Os yw'n well gennych, gallwch ddarparu'r wybodaeth uchod trwy ysgrifennu at y Tîm Bilio Treth y Cyngor, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.
Yna byddwn yn trefnu bod arolygydd treth y cyngor yn ymweld â'r eiddo yr effeithir arno i wirio a ellir dyfarnu'r eithriad.
Cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru (CCD)
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth ariannol i'r rheini y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt drwy ei Chronfa Cymorth Dewisol (CCD). Lle bo CBS Caerffili wedi rhoi cymorth ariannol o dan ei gynllun, bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru ar ran deiliaid tai lle mae caniatâd wedi'i roi i wneud hynny. Ar hyn o bryd, ni all y trigolion wneud cais i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan fod angen i'r cyngor gadarnhau cymhwysedd.
Gwirio a ydych chi'n gallu dychwelyd adref
Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref, gwiriwch gyda'r gwasanaethau brys ei bod hi'n ddiogel cyn i chi ddychwelyd.
Efallai bydd angen i'r cwmnïau cyfleustodau gynnal archwiliad diogelwch ar eich cartref neu fusnes cyn i chi ddechrau defnyddio'r dŵr, nwy a thrydan eto.
Byddwch yn wyliadwrus am swyddogion y Cyngor ffug
Rhybuddir trigolion am alwyr digroeso sy'n cynnig taliadau o £500, sy’n honni eu bod nhw’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae'r swyddogion ffug yn cyrraedd cartrefi ac yn dweud wrth drigolion bod yr arian ar gyfer dioddefwyr y stormydd diweddar, cyn gofyn am fanylion cyfrif banc.
Bydd gan swyddogion CBSC dilys gardiau adnabod corfforaethol a phe bai trigolion mewn unrhyw amheuaeth, gallant ffonio'r Cyngor ar 01443 815588. Byddai swyddogion dilys y Cyngor yn fwy na pharod i aros wrth i chi wirio’u hunaniaeth.
Ni ddylai unrhyw un sy'n cael ei dargedu, o dan unrhyw amodau, roi unrhyw fanylion personol nac ariannol.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi cael eich targedu, cysylltwch â Safonau Masnach ar 01443 811300 neu safonaumasnach@caerffili.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth ar sut gallwch chi roi gwybod am fater, ewch i: https://bit.ly/2Vsquyv.
Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant
Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn rhoi sicrwydd i berchnogion tai a busnesau sydd wedi dioddef difrod o ganlyniad i’r storm a’r llifogydd bod yswirwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu i atgyweirio'r difrod cyn gynted â phosibl.
Responding to major floods (PDF) – gwybodaeth ymarferol am y cyngor a'r cymorth y gallwch eu disgwyl gan eich yswiriwr yn y dyddiau, wythnosau a misoedd ar ôl i'ch cartref neu fusnes ddioddef oherwydd llifogydd.
Glanhau a thrwsio eich cartref
- Cymerwch gyngor gan arbenigwyr cyn dechrau trwsio eich eiddo. Bydd angen i'r rhan fwyaf o'r gwaith trwsio ar ôl llifogydd gael ei wneud gan weithwyr proffesiynol a fydd yn cael eu penodi gan eich cwmni yswiriant.
- Mae'n bosibl i ddŵr llifogydd gynnwys sylweddau niweidiol fel carthffosiaeth, cemegau a gwastraff anifeiliaid a allai eich gwneud chi'n sâl. Os byddwch chi'n dod i gysylltiad â dŵr llifogydd, golchwch eich dwylo'n drylwyr..
- Wrth lanhau'ch cartref ar ôl llifogydd, gwisgwch fenig, mwgwd wyneb ac esgidiau cadarn Cliciwch yma i weld sut i lanhau'ch cartref yn ddiogel ar ôl llifogydd.
- Cyn i chi ddechrau glanhau, tynnwch luniau i wneud cofnod o'r difrod a nodi uchder y dŵr llifogydd. Gofynnwch i'ch cwmni yswiriant cyn taflu eitemau does dim modd eu glanhau, fel matresi a charped
- Os ydych chi'n defnyddio gwresogyddion neu beiriannau dadleithio i sychu'ch eiddo, gwnewch yn siŵr bod awyru da. Peidiwch â defnyddio generaduron petrol neu ddiesel dan do – gall nwyon y peiriannau fod yn beryglus iawn.
Gwnewch eich eiddo yn ddiogel rhag llifogydd yn y dyfodol
I leihau difrod o ganlyniad i lifogydd, mae modd cymryd mesurau fel gosod teils yn hytrach na charped, symud socedi trydan yn uwch a gosod falf un ffordd..
Mae modd gweld cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau llifogydd ar y Bluepages.
Darllenwch gyngor Fforwm Cenedlaethol Llifogydd sut i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd.
Cymorth gan sefydliadau eraill:
- Mae gwefan GOV.UK a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Mae cymorth ariannol ar gael gan Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru, gwybodaeth ar gael yma –- https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf.
-
- Gofal a Thrwsio - yn cynnig cyngor diduedd am ddim ar waith trwsio ac yn helpu pobl i gael dyfynbrisiau ac i ddewis contractwr ag enw da. Ffoniwch 01495 321091 neu ewch i wefan Gofal a Thrwsio (www.careandrepair.org.uk/cy).
- HEART Home Energy Replacement Scheme - Mae pob darn o offer yn costio £75, ac mae hynny'n cynnwys pris danfon a gosod. Rhaid i chi naill ai dderbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, fod ar incwm isel neu fod gennych gyflwr iechyd difrifol. Mae modd cyflwyno cais drwy'r wefan: www.applyforheart.org.uk
- Furniture Revival Service - yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys dodrefn rhad a chlirio tai'n moesegol. www.thefurniturerevival.co.uk
Cronfeydd Lles
Os ydych wedi gweithio yn unrhyw un o'r diwydiannau canlynol, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth ariannol: