Adroddiad Asesu Cychwynnol Bygythiad Llifogydd

O dan Reoliadau Perygl Llifogydd (2009) a’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2010, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi’i ddynodi’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Rhoddwyd iddo nifer o gyfrifoldebau allweddol, gan gynnwys paratoi Adroddiad Asesu Cychwynnol Bygythiad Llifogydd.

Adroddiad Asesu Cychwynnol Bygythiad Llifogydd (PFRA)

Noder – mae’r ffeiliau ar y rhestr hon yn fawr iawn a bydd yn cymryd cryn amser i’w lawrlwytho. 

Ffigur 1 – Map Cymru Gyfan (PDF 446kb)

Ffigur 2 – Ardal Perygl Llifogydd dangosol a Sgwariau Glas Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (PDF 5.1mb)

Ffigur 3 – Llifogydd a Digwyddiadau Llifogydd Hanesyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (PDF 5mb)

Ffigur 4 – Llifogydd Carthffosydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (PDF 4.9mb)

Ffigur 5 – Map Llifogydd Dŵr Wyneb Unwaith ymhob Dau Gan Mlynedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (PDF 6.2mb)

Atodiad 5 – Haenen System Gwybodaeth Ddaearyddol Ardal Perygl Llifogydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (PDF 5mb)

Adolygu Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd

Mae’r cylch cyntaf wedi’i gwblhau felly rydym bellach yn yr ail gylch o weithredu. Golyga hyn fod angen adolygu’r cynhyrchion a gynhyrchwyd trwy gydol cylch 1 uchod ac, os yw’n briodol, eu diweddaru. Cam cyntaf y gwaith adolygu a diweddaru yw Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd. 

Terfynau amser deddfwriaethol ail gylch Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd

Mae gwahaniaeth rhwng y dyddiadau yn y ddeddfwriaeth o ran pryd mae angen cyflawni’r adolygiad. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau’r Asesiad erbyn 22 Rhagfyr 2017; ac mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn 22 Rhagfyr 2018.

Adolygiad o’r Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd (PDF)
Atodiad (PDF)