Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Mae llifogydd yn parhau i fod yn fygythiad allweddol ar draws Cymru ac mae rheoli’r perygl yma drwy gynllunio gofalus yn bwysig er mwyn lleihau’r perygl i’n cymunedau. Mae cynllunio i reoli perygl llifogydd yn caniatáu i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ddatblygu gwell dealltwriaeth o risg o bob ffynhonnell o lifogydd a chytuno ar flaenoriaethau i reoli’r perygl yna.

Mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi cael ei ddatblygu gyda hyn mewn golwg ac mae’n nodi sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC), dros y 6 mlynedd nesaf, yn rheoli perygl llifogydd fel bod yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn elwa fwyaf. Wrth wneud hynny, mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn symud ymlaen â’r amcanion a’r camau gweithredu a nodir yn ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol.

Mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd hefyd yn anelu at gyflawni rhai o’r amcanion a nodir yn Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru drwy’r pedwar amcan trosfwaol canlynol:

  • Lleihau’r canlyniadau i unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd rhag llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Codi ymwybyddiaeth a chynnwys pobl yn yr ymateb i’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol;
  • Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i ddigwyddiadau llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn ymdrin â llifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear, cyrsiau dŵr cyffredin a’r rhyngwyneb gyda llifogydd prif afonydd. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru o hyd yw llifogydd o brif afonydd a chronfeydd dŵr.

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd (PDF)