Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Rheoli cynllunio ac adeiladu    Gorfodi cynllunio

Gorfodi rheoliadau cynllunio

Gallwn ddefnyddio pwerau gorfodi mewn achosion o fethu â chydymffurfio â’r rheoliadau cynllunio.

Pwerau yn ôl disgresiwn ydynt, ac rydym ond yn gallu eu defnyddio pan fo’n gymesur gwneud hynny yn unol â pholisïau a deddfwriaeth gynllunio.

Mae’r prif feysydd lle gellir defnyddio’r pwerau gorfodi fel a ganlyn:

  • Gwneud gwaith adeiladu naill ai heb ganiatâd cynllunio neu mewn ffordd sy’n wahanol iawn i’r hyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
  • Methu â chydymffurfio ag amodau cynllunio sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio.
  • Newid defnydd tir neu adeiladau naill ai heb ganiatâd cynllunio neu mewn ffordd sy’n wahanol iawn i'r hyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
  • Hysbysebion anawdurdodedig
  • Gwaith ar adeiladau rhestredig
  • Tir ac eiddo anniben
  • Gwaith ar goeden a warchodir neu waith i gwympo coeden o’r fath

Nid yw tor-reolaeth cynllunio yn drosedd, fodd bynnag, os byddwn yn cyflwyno hysbysiad gorfodi ffurfiol, bydd methu â chydymffurfio â thelerau’r hysbysiad yn drosedd. 

Rhoi gwybod am dor-reolaeth

Os ydych yn amau achos o dor-reolaeth cynllunio, dylech gysylltu â ni. Nodwch na fydd yr Awdurdod yn derbyn cwynion dienw, nac yn ymchwilio iddyn nhw.

Cysylltu â ni ynghylch achos posibl o dorri rheoliadau cynll >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Bydd angen i ni wybod y manylion canlynol:

  • Cyfeiriad llawn y safle, gan gynnwys y cod post
  • Manylion llawn y gweithgareddau sy’n peri pryder i chi
  • Pryd ddechreuodd y gweithgareddau
  • Os yw’n hysbys, enwau a chyfeiriadau unrhyw berchenogion, meddianwyr neu gwmnïau sy’n ymwneud â’r achos dan sylw

Er y bydd y Cyngor yn cadw eich cwyn yn gyfrinachol, gall fod angen ei datgelu os bydd y mater yn destun apêl neu achos llys.

Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cwyn?

Ar ôl cael cwyn ddilys sydd wedi’i chefnogi’n llawn gan y dystiolaeth briodol byddwn yn:  

  • Cofrestru’r gwyn yn System Orfodi’r Cyngor
  • Cydnabod y gwyn yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law (drwy e-bost lle mae’r cyfeiriad wedi’i ddarparu), gan roi:
    • Rhif cyfeirnod yr Achos Gorfodi
    • Enw a manylion cyswllt Swyddog yr Amgylchedd a fydd yn ymchwilio i’r gwyn

Mae rhagor o wybodaeth am y lefelau o flaenoriaeth a’r gwasanaeth gorfodi a ddarperir ar gael yn
Polisi Gorfodi Cynllunio.

Beth sy’n digwydd os oes achos o dor-reolaeth cynllunio?

Cymerir camau gorfodi yn ôl disgresiwn.  Ni fydd pob achos o dor-reolaeth cynllunio yn arwain at gymryd camau ffurfiol; rhaid ystyried pob achos ar sail ei rinweddau unigol, gan ystyried y polisïau lleol a chenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill, yn yr un modd â chais cynllunio.

Os yw’n debygol y byddai caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad, ni chymerir unrhyw gamau gorfodi. Os bydd rhannau o’r datblygiad neu'r datblygiad cyfan yn annerbyniol, cyflwynir ‘hysbysiad gorfodi’. Bydd gan y tramgwyddwr yr hawl i gyflwyno apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn yr hysbysiad, ond os bydd yr apêl honno’n methu, bydd rhaid iddo gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad neu wynebu erlyniad. 

Mwyaf poblogaidd
  • Siarter Gorfodi Cynllunio
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch y dudalen hon
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl