Beth fydd yn digwydd i'r cais?

Y broses a ddilynwn ar ôl i chi gyflwyno cais cynllunio.

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cais gyrraedd?
  • Â phwy fyddwn yn ymgynghori wrth wneud penderfyniad cynllunio?
  • Beth fyddwn yn ei ddadansoddi a sut byddwn yn llunio ein hadroddiad?
  • Faint o amser mae'n ei gymryd i ni wneud penderfyniad?
  • Y penderfyniad terfynol
  • Os gwrthodir fy nghais, beth ddylwn ei wneud?
  • Mathau eraill o ganiatâd y gallai fod eu hangen arnoch

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cais gyrraedd?

Ar ôl i'r cais cynllunio gyrraedd, byddwn yn gyntaf yn gwirio'r cais i sicrhau ei fod yn gyflawn. Enw'r broses hon yw ‘dilysu’.

Dylai cais dilys gynnwys y canlynol:

  • Ffurflen gais safonol wedi'i llenwi.
  • Gofynion cenedlaethol gorfodol o ran gwybodaeth, gan gynnwys lluniadau wrth raddfa a dogfennau angenrheidiol eraill.
  • Y ffi gywir.

Mae rhagor o arweiniad ar gael yn y gofynion dilysu.

Os na fyddwch yn darparu'r holl wybodaeth ofynnol, byddwn yn ystyried eich cais yn annilys

​Ceisiadau annilys

Os canfyddir bod eich cais yn anghyflawn neu nad oes digon o wybodaeth wedi'i chyflwyno, byddwn yn ysgrifennu atoch gan roi gwybod am y rhesymau a'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod y cais yn ddilys; dylid cyflwyno'r wybodaeth hon o fewn 28 diwrnod. Noder: Os ydych wedi cyflogi asiant/pensaer, byddwn yn delio â nhw.

Os na ddaw'r wybodaeth i law o fewn yr amser penodedig, dychwelir y cais, ynghyd ag ad-daliad o unrhyw arian a dalwyd gyda'r cais.

Os byddwch yn anfodlon ar y rheswm dros ystyried eich cais yn annilys, cysylltwch â ni i drafod y mater. Os byddwch o'r farn na ellir datrys hyn, mae proses apelio yn erbyn hysbysiad barnu'n annilys. Mae rhagor o arweiniad a ffurflenni apelio ar gael gan yr Arolygiaeth Gynllunio: Gwneud eich apêl yn erbyn hysbysiad barnu'n annilys – Cymru

Ceisiadau dilys

Ar ôl dilysu'r cais, bydd yn cael ei gofrestru a byddwn yn anfon llythyr cydnabod atoch a fydd yn cynnwys manylion cyswllt y swyddog achos, cyfeirnod y cais cynllunio, a'ch hawliau statudol ynghylch yr amserlen pan allwch apelio yn erbyn methu penderfynu i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Bydd gwybodaeth a gyflwynir gyda chais cynllunio, gan gynnwys manylion yr asiant a'r ymgeisydd, yn wybodaeth gyhoeddus. Bydd y manylion hyn, ynghyd â delweddau electronig o'r dogfennau, ar gael ar ein gwefan. Nid fydd gwybodaeth bersonol benodol a fydd wedi'i chynnwys yn y cais – megis rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a llofnodion yr ymgeisydd – ar gael ar ein gwefan

Ymgynghori a chyhoeddusrwydd

Ar ôl dilysu a chofrestru'r cais, bydd yn cael ei gyhoeddi mewn sawl ffordd.

  • Bydd rhaid i ni ymgynghori â rhai adrannau o'r llywodraeth, grwpiau â buddiant ac/neu arbenigwyr yn dibynnu ar natur y cais, ynghyd ag adrannau eraill o'r Cyngor.
  • Byddwn yn ysgrifennu at ddeiliaid eiddo, sy'n rhannu ffin â safle'r cais, i roi gwybod iddynt fod cais cynllunio wedi'i gyflwyno.
  • Byddwn yn cyhoeddi'r cais ar wefan y Cyngor.
  • Yn achos rhai ceisiadau, bydd angen codi hysbysiad ar y safle a/neu hysbysebu mewn papur newydd lleol.

Mae'r cyfnod ymgynghori hwn, fel arfer, yn cychwyn o fewn wythnos i gofrestru'r cais ac yn para am gyfnod statudol o 21 diwrnod.

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio. Ni fydd angen i chi gael llythyr ymgynghori er mwyn cael gwneud sylwadau. Asesir y sylwadau gan y Swyddog Achos Cynllunio. Dylid gwneud unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig:

Am ragor o arweiniad, ewch i'r adran Sut mae gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio?

Os daw diwygiadau neu wybodaeth ychwanegol i law, gellir cynnal proses ymgynghori arall am gyfnod o 14 diwrnod, fel arfer.

Ymweld â'r safle

Byddwn yn ymweld â'r safle ac yn asesu effaith y cais, gan ystyried polisïau cynllunio ac unrhyw ymatebion a fydd wedi dod i law. 

Dadansoddi 

Byddwn yn dechrau dadansoddi unrhyw faterion perthnasol y byddwn wedi eu nodi.

Dim ond ystyriaethau cynllunio perthnasol y gallwn eu hystyried. Wrth ystyried ceisiadau, mae gennym ddyletswydd statudol i roi sylw i ddarpariaethau'r cynllun datblygu ac unrhyw “ystyriaethau perthnasol” eraill.

Dyma rai o'r “ystyriaethau perthnasol” mwyaf cyffredin, er nad yw'n rhestr gynhwysfawr:

  • Colli preifatrwydd
  • Colli golau neu gysgodi
  • Parcio
  • Diogelwch ar y briffordd
  • Traffig
  • Sŵn
  • Effaith ar adeiladau rhestredig ac/neu ardaloedd cadwraeth
  • Trefn a dwysedd yr adeilad
  • Dyluniad, golwg a deunyddiau
  • Gwarchod natur
  • Tirlunio

Dyma'r materion na ellir eu hystyried:

  • Materion preifat rhwng cymdogion, e.e. anghydfod ynghylch tir/ffiniau, difrod i eiddo, hawliau tramwy preifat, cyfamodau ac ati.
  • Colli gwerth eiddo

Byddwn yn ystyried yr ymatebion a ddaw i law i weld pa sylwadau sydd wedi'u gwneud. 

Os gallwn weld y byddai mân ddiwygio yn datrys problemau neu'n gwella'r gwaith adeiladu terfynol, gallwn gysylltu â chi neu'ch asiant i drafod y newidiadau a awgrymir.

Llunio adroddiad

Byddwn yn dechrau llunio adroddiad sy'n cynnwys disgrifiad o'r cynnig, unrhyw farn sydd wedi'i mynegi yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac unrhyw gysylltiadau â pholisi. Bydd yn cynnwys argymhelliad o ran a yw'r cais yn dderbyniol ai peidio, yn nodi'r rhesymau dros ei gymeradwyo neu ei wrthod, ac unrhyw amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy.

Penderfynu

Pan fydd yr adroddiad wedi'i orffen, rhoddir penderfyniad argymelledig i'r Rheolwr Datblygu er mwyn iddo ei wirio yn seiliedig ar gyfraith cynllunio.

Mae gan y Rheolwr Datblygu “bwerau dirprwyedig” sy'n caniatáu iddo awdurdodi drwy ddirprwyo oherwydd ei swydd, ei brofiad a'i gymwysterau.

Os yw cais yn gymhleth, yn denu llawer o wrthwynebiad neu o fudd y cyhoedd, gallwn gyflwyno penderfyniad argymelledig i'r Pwyllgor Cynllunio.

Pwyllgor Cynllunio

Mae'r Pwyllgor Cynllunio yn cynnwys Aelodau etholedig ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar y ceisiadau cynllunio mawr a mwy sensitif.

Mae croeso i chi fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a gwrando ar y trafodaethau. Fodd bynnag, os byddwch am siarad yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio er mwyn gwrthwynebu neu wneud sylwadau, bydd angen i chi ddarllen yr adran Siarad gerbron pwyllgor cynllunio.

Faint o amser mae'n ei gymryd?

Penderfynir ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio o fewn wyth wythnos i'r dyddiad dilysu; os yw'n gais mawr a bod Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol wedi ei gyflwyno, y cyfnod yw 16 wythnos.

Os na all y Swyddog Achos benderfynu ar eich cais o fewn yr wyth wythnos, byddwn yn anfon llythyr yn gofyn am estyn y terfyn amser.  

Hysbysiad penderfynu

Ar ôl penderfynu, byddwn yn anfon yr hysbysiad penderfynu atoch chi neu at eich asiant. Bydd yr hysbysiad yn rhoi gwybod i chi a yw'ch cais wedi ei gymeradwyo neu wedi ei wrthod.  

Os yw'ch cais wedi'i gymeradwyo, efallai y bydd amodau ynghlwm wrtho. Gall yr amodau gyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud ar y safle/tir neu nodi bod angen i chi gael cymeradwyaeth benodol ar gyfer agweddau ar y datblygiad, megis y deunyddiau i'w defnyddio, cyn y gallwch fwrw ymlaen â'r gwaith.

Os yw'ch cais wedi'i wrthod, bydd yn cynnwys y rhesymau pam y bu'r cynnig yn aflwyddiannus.

Bydd copi o'r penderfyniad ar gael ar ein gwefan.

Os gwrthodir fy nghais cynllunio, beth ddylwn i ei wneud?

Sicrhewch eich bod yn deall y rheswm dros ei wrthod, sydd i'w weld yn eich Hysbysiad Penderfynu. Os yw'n aneglur i chi, gall y Swyddog Achos esbonio'r rhesymau i chi.

Os dymunwch, gallwch wneud y canlynol:

  • Cyflwyno cais diwygiedig i oresgyn y rhesymau dros ei wrthod.
  • Cysylltu â'r Swyddog Achos i gael cyngor; gellir awgrymu newidiadau i sicrhau bod eich datblygiad yn dderbyniol.
  • Apelio. Os yw'ch cais wedi'i wrthod, neu os nad ydych yn fodlon ar rai o'r amodau sydd ynghlwm wrtho, gallwch apelio i Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Rhagor o wybodaeth am apeliadau cynllunio.

Ardoll Seilwaith Cymunedol

Codir Ardoll Seilwaith Cymunedol (‘CIL’) ar rai datblygiadau. Defnyddir yr arian a ddaw o'r ardoll i gefnogi a rheoli effeithiau datblygu drwy ariannu'r isadeiledd (seilwaith) yr hoffai'r Cyngor a'r gymuned leol ei gael.

Os yw'ch datblygiad yn agored i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o'r rhwymedigaeth i'w thalu ynghyd â'r hysbysiad penderfynu. Mae'r hysbysiad hwn yn nodi cyfanswm yr Ardoll Seilwaith Cymunedol sy'n daladwy yn achos eich datblygiad.

Darllenwch am yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn yr adran Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Rheoliadau adeiladu

Yn ogystal â chael caniatâd cynllunio, efallai y bydd angen caniatâd rheoli adeiladu arnoch i sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd safonau penodol a bod yr adeilad yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni. Ewch i'r adran cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Mathau eraill o ganiatâd y gallai fod eu hangen arnoch

Hyd yn oed os rhoddir caniatâd cynllunio, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd ychwanegol arnoch o hyd ar gyfer y gwaith rydych chi'n ei gynllunio.  

Mae angen caniatâd arbennig ar gyfer y canlynol:

Cyn i chi ddechrau'r gwaith, dylech hefyd gadarnhau'r ffactorau canlynol:

  • Henebion
  • Ardaloedd cadwraeth
  • Cyfamodau a hawliau preifat
  • Safleoedd a mangreoedd trwyddedig
  • Adeiladau rhestredig
  • Deddf Muriau Cyd etc. 1996
  • Rhywogaethau a warchodir
  • Hawliau tramwy

Mae cyngor ar y materion uchod ar gael yn y Porth Cynllunio.

Cysylltwch â ni