Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio

Gallwch apelio yn erbyn: 

  • achos o wrthod caniatâd cynllunio
  • yr amodau a roddir ar gais cynllunio
  • achos lle na phenderfynwyd ar y cais o fewn y cyfnod statudol.

Dim ond ymgeiswyr all gyflwyno apêl: nid oes hawl apelio yn achos trydydd parti na gwrthwynebwyr ceisiadau.

Gwneir apeliadau i'r Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru.

Apelio cyn y dyddiad cau

Rhaid apelio i'r Arolygiaeth Gynllunio cyn pen 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad penderfynu. Fodd bynnag, yn achos apeliadau deiliaid tai ac apeliadau datblygiadau masnachol bach, dim ond 12 wythnos sydd gennych i apelio.

Cyflwyno eich apêl

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am y broses apelio, gan gynnwys gwneud apêl, rhoi sylwadau ar apêl ac arweiniad ar wneud eich apêl.

Cysylltwch â ni