Cynllunio – cwestiynau cyffredin
A oes Gorchymyn Cadw Coed ynghlwm wrth fy nghoeden/nghoed, neu a yw hi mewn ardal gadwraeth?
Mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn cael eu gwarchod fel rhan o gadw gwerth amwynder yr ardal, felly, hyd yn oed os nad yw'r goeden/coed yn cael ei/eu gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, efallai bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd ar gyfer eich gwaith arfaethedig.
Gall coeden hefyd gael ei gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed a bod mewn ardal gadwraeth.
Darllen rhagor am Orchmynion Cadw Coed
Ai wal gydrannol yw hi?
‘Wal gydrannol’ yw lle mae rhan o'ch eiddo, neu'ch eiddo i gyd, wedi'i gysylltu â ffin tir sy'n eiddo i ddau (neu ragor) o berchnogion gwahanol.
Os ydych chi ar fin cychwyn prosiect adeiladu, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r gwahanol berchnogion.
Gall perchnogion gytuno neu anghytuno â'r hyn rydych chi'n ei gynnig.
Darllen rhagor am waliau cydrannol ar y porth cynllunio
Sut mae sicrhau fy mod i'n adeiladu systemau draenio cynaliadwy?
O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i bob datblygiad newydd o fwy nag 1 tŷ, neu lle mae'r ardal adeiladu yn 100m2 neu fwy, gael system ddraenio gynaliadwy i reoli dŵr wyneb ar y safle.
Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol ac ar wahân i ganiatâd cynllunio, a rhaid cael y ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.