Pridiannau tir lleol

Ar hyn o bryd, yr amser ar gyhfer cwblhau chwiliad yw tua 10 diwrnod gwaith.

Chwiliad pridiannau tir lleol

Os ydych yn bwriadu prynu neu rentu eiddo ar brydles, bydd angen i chi wybod a oes unrhyw faterion sy’n peri pryder, megis cynlluniau i adeiladu traffordd ar waelod eich gardd neu Hysbysiadau sydd heb eu cyflawni sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi unioni unrhyw gamwri blaenorol.

Yn y cyd-destun hwn, ystyr y gair "pridiant" ("charge") yw unrhyw hawliad ariannol, cyfyngiad, penderfyniad neu wybodaeth sy’n weddill a allai effeithio ar eiddo neu lain o dir penodol.  Mae’r rhain yn cynnwys taliadau ar gyfer gwasanaethau megis ffyrdd, cyfyngiadau megis gorchmynion cadw coed ac amodau a osodir ar ganiatâd cynllunio, ardaloedd cadwraeth, cytundebau cyfreithiol ac adeiladau rhestredig.

Yn unol â’r gyfraith, rhaid i ni gadw ‘cofrestr pridiannau tir’. Mae’r gofrestr yn cofnodi gwybodaeth berthnasol am bob eiddo neu lain o dir yn y fwrdeistref. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ganiatâd cynllunio, statws/cynigion priffyrdd, dynodi ardaloedd cadwraeth, gorchmynion cadw coed, hysbysiadau gorfodi, grantiau gwella, gorchmynion rheoli a thaliadau ariannol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfreithiwr i drefnu chwiliad pridiannau tir lleol, er bod gan unrhyw un yr hawl i wneud hynny.

Dylid anfon ymholiadau ynghylch chwiliadau draeniad yn uniongyrchol i Dwr Cymru.

Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â gweithredoedd, ffiniau neu berchenogaeth cysylltwch â Swyddfa Cofrestrfa Dir y Dosbarth.

Gwneud cais am chwiliad

LLC1 – Cais am Chwiliad Swyddogol o’r Gofrestr – Bydd yr ymateb i gais o’r fath yn datgelu, er enghraifft, p'un a yw’r eiddo mewn ardal gadwraeth neu b’un a yw’n adeilad rhestredig, neu b’un a yw unrhyw goed ar safle’r eiddo wedi’u gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed ac ati.

O 11 July 2023, ni fyddwn yn darparu gwasanaeth chwilio pridiannau tir Lleol (LLC1).

Ar ôl y dyddiad hwn, bydd ein Cofrestr Pridiannau Tir Lleol wedi mudo i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EF. Byddwch yn gallu defnyddio gwasanaeth digidol newydd trwy’r Porthol, Business Gateway ac ar dudalennau GOV.UK Cofrestrfa Tir EF.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK 

CON29 – Ffurflen Ymholiadau Safonol i Awdurdodau Lleol – Mae’r ffurflen hon yn ymdrin â materion megis cynlluniau ffordd, hanes ceisiadau cynllunio, rheoliadau adeiladu a'r hysbysiadau amrywio sy’n effeithio ar yr eiddo.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent yn parhau i ddarparu atebion i ymholiadau Con29.

Y Ffurlen CON29 ar gael gan lyfrfeydd cyfreithoil neu Gymdeithas y Cyfeithwyr.

CON29O – Ymholiadau Dewisol – Mae’r ffurflen CON29O, os oes angen, yn cynnwys ymholiadau dewisol ychwanegol sy’n ymdrin â materion megis cynigion ffyrdd gan gyrff preifat, piblinellau, caniatâd sylweddau peryglus ac ati.

Cyflwyno cais am chwiliad – i gynnwys, CON29 a CON29O a chynllun yn amlinellu maint eich chwiliad chi'n glir mewn coch, e-bostiwch eich cais chi i PridiannauTir@caerffili.gov.uk

Am CON29 C1.1j, k, l ac C3.8 yn unig, os oes angen, gwnewch gais drwy e-bost gyda manylion eich cyfeiriad llawn chi a chynllun yn amlinellu maint eich chwiliad chi'n glir mewn coch ac e-bostiwch eich cais at PridiannauTir@caerffili.gov.uk

Chwiliadau ar-lein gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth Tir NLIS

Mae’r cyfleuster hwn ar gyfer cyfreithiwr neu drawsgludwyr trwyddedig.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan NLIS www.nlis.org.uk

Ffyrdd o dalu

Talu ar-lein

Mae gwneud cais ar-lein yn syml ac yn ddiogel. Dyma'r cardiau rydyn ni'n eu derbyn: Maestro UK, MasterCard Debit, Visa Debit (Delta, Electron), Visa Credit, a MasterCard Credit.

Er mwyn osgoi gwneud unrhyw daliadau anghywir, arhoswch nes y byddwch chi'n cael e-bost cadarnhau gennym ni yn gofyn i chi dalu ac yn nodi'r union ffi sy'n daladwy.

Cofiwch wrth dalu ar-lein i ddyfynnu'r cyfeirnod sy'n cael ei ddarparu i chi yn ein e-bost cadarnhau ni yn cadarnhau'r ffi gywir sy'n daladwy.

Talu drwy bacs 

Manylion os ydych chi'n talu drwy BACS: 

  • Rhif ein cyfrif banc yw 083532550
  • Ein cod didoli yw 20-10-42
  • Enw ein cyfrif yw “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili”
  • Dyfynnwch y rhif cyfeirnod rydyn ni wedi'i roi i chi yn ein e-bost cadarnhau ni

Sylwch: Ni allwn ni ddychwelyd canlyniadau chwiliad nes bod taliad wedi'i dderbyn. 

Ffioedd chwilio o 1 Ebrill 2024

Preswyl / Masnachol

 

 

 

CON 29 (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£121.72

 

 

 

CON29O 4 - Q22 (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£19.85 yr un

CON29 Q1.1j, k, l & Q3.8 os oes angen (Yn cynnwys TAW @ 20%)

 

£19.85 yr eiddo

Copi o chwiliad

£10.50

 

 

Ymholiad ychwanegol cyfreithiwr (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£19.85

 

 

Llain ychwanegol o dir (CON29) (Yn cynnwys TAW @ 20%)

£19.85

Sylwch na allwn ni gynnig gwasanaeth cyflym ar hyn o bryd.

Byddwn yn ardystio chwiliadau swyddogol wrth iddynt gael eu cwblhau gan staff hyfforddedig sy’n meddu ar wybodaeth fanwl o’r holl wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr holiadur CON29. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau a gymeradwywyd nas gweithredwyd gan y Cyngor hyd yma megis:

  • Cyfyngiadau parcio arfaethedig
  • Trefniadau gyrru unffordd
  • Gwahardd gyrru
  • Mesurau arafu traffig
  • Cynlluniau ffordd neu reilffordd gerllaw
  • Hysbysiadau statudol nas cyflawnwyd sy’n ymwneud â gwaith adeiladu, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch yn y gwaith, tai, priffyrdd neu iechyd y cyhoedd

Chwiliadau personol

Gallwch gyflawni chwiliad personol ond bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Caiff canlyniadau’r chwiliad eu casglu o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ac nid yw’n cynnwys yr holl wybodaeth CON29. Nid ydym yn casglu nac yn ardystio canlyniadau chwiliadau personol, a’r cwmni chwilio perthnasol sy’n gyfrifol am gywirdeb yr ymatebion.  Nid yw rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn derbyn chwiliadau personol at ddibenion ceisiadau morgais.

Gwybodaeth am eiddo cyfagos

Nid yw’r chwiliad yn cynnwys gwybodaeth am eiddo cyfagos, ac mae dim ond yn cael ei gynnal ynghylch yr eiddo a amlinellwyd ar y cais am chwiliad.

Fodd bynnag, os oes unrhyw bryderon gennych am ganiatâd cynllunio ar eiddo neu ardaloedd cyfagos, gellir cyflwyno CON29 O, ymholiad dewisol neu ymholiad ychwanegol sy’n eich galluogi i ofyn cwestiwn penodol. Er enghraifft, a roddwyd caniatâd cynllunio ar eiddo cymdogion sy’n union gerllaw?

Os oes pryderon gennych am ardaloedd o dir, dylech fod yn benodol wrth liwio neu amlinellu’r ardal dan sylw.

Noder ni allwn ateb ymholiadau goddrychol megis caniatâd cynllunio a allai effeithio ar y mwynhad o’r eiddo, neu ei amwynderau neu’r golygfeydd. Codir ffi o £19.85 am ymholiad ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth am chwiliadau Pridiannau Tir Lleol, dylech gysylltu â ni.

Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

Sut i brynu cartref | Sut i werthu cartref