Datganiadau dylunio a mynediad

Mae'r gofyniad i gyflwyno DAS gyda chais cynllunio ond yn berthnasol i:

  • Ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr ac eithrio:
    • Gweithrediadau mwyngloddio 
    • Datblygiadau gwastraff
    • Llacio neu ddiwygio amodau (ceisiadau adran 73)
    • cais am newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau
  • Ceisiadau cynllunio mewn ardal gadwraeth ar gyfer un neu fwy o anheddau
  • Ceisiadau cynllunio mewn ardal gadwraeth lle mae creu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr neu fwy

Nid oes angen DAS ar gyfer cais materion a gedwir yn ôl gan nad yw hwn yn gais am ganiatâd cynllunio.

Fodd bynnag, dylai'r DAS weithredu fel 'dogfen fyw' a dylid cynnwys datganiad cynnydd gyda chais materion a gedwir yn ôl yn diweddaru unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd ers cyflwyno'r DAS gwreiddiol.

Noder: Os oes angen DAS ond heb ei gyflwyno neu os nad yw cynnwys y DAS yn rhoi sylw priodol i'r cynnwys gofynnol ar gyfer y cais cynllunio, yna caiff ei ystyried yn annilys.

Strwythur DAS

Dylai DAS arwain y darllenydd yn glir ac yn rhesymegol drwy'r broses ddylunio er mwyn esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r cynnig terfynol.

Bydd y cynnwys yn amrywio yn dibynnu ar y prosiect.   Rhaid i'r DAS esbonio o leiaf:

  • Yr egwyddorion a'r cysyniadau dylunio sydd wedi'u cymhwyso i'r datblygiad; a
  • Sut yr ymdriniwyd â materion yn ymwneud â mynediad i'r datblygiad.

Mae'r strwythur awgrymedig hwn yn dilyn camau'r broses ddylunio yn fras.  Mae'n bwysig eich bod yn mynd i'r afael â'r holl benawdau a nodir mewn print bras a'ch bod yn dweud rhywbeth am bob un.

 a) Crynodeb o'r cynnig 
 b) Y Briff a'r Weledigaeth 
 c) Dadansoddiad o'r Safle a'r Cyd-destun 
 d) Dehongliad 
 e) Dehongliad 
 f) Datblygu Dyluniad 
 g) Y cynnig 
 (i) Nodwedd
 (ii) Mynediad 
 (iii) Symudiad 
 (iv) Cynaliadwyedd Amgylcheddol 
 (v) Diogelwch Cymunedol 
 (vi) Ymateb i bolisi cynllunio 

Am arweiniad pellach ar sut i gynhyrchu DAS lawrlwythwch y ddogfen Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru Llywodraeth Cymru, Mehefin 2017 (PDF)

Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth

O 1 Medi 2017, mae angen Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth i gefnogi ceisiadau penodol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth yng Nghymru a bydd yn disodli'r DAS yn y broses ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig.

Canllaw ar baratoi Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth (PDF)

Rhagor o wybodaeth

Mae'r dolenni canlynol i'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau ar Ddatganiadau Dylunio a Mynediad.

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017

Mae cyngor ar gynnwys DAS wedi'i gynnwys yn nogfen Llywodraeth Cymru: Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12: Dylunio, wedi'i diweddaru diwethaf 31 Mawrth 2016.

Cysylltwch â ni