Coronafeirws (COVID-19) - Cyngor ynghylch cynllunio, rheoli adeiladu, gorfodi a phridiannau tir
Canllawiau ar gyfer ceisiadau cynllunio a materion gorfodi
Oherwydd cau Tŷ Tredomen i aelodau'r cyhoedd, rydyn ni'n newid y ffordd rydyn ni'n prosesu ceisiadau cynllunio.
Cyngor cyn gwneud cais cynllunio
Mae gwasanaeth swyddog ar ddyletswydd yr Awdurdod wedi'i atal am gyfnod amhenodol. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddarparu gwasanaeth statudol o ran cyngor cyn gwneud cais cynllunio.
Ceisiadau newydd
Cyflwynwch bob cais cynllunio drwy'r Porth Cynllunio – www.planningportal.co.uk/wales_cy – a thalu eich ffi i Gyngor Caerffili ar-lein drwy: https://ip.e-paycapita.com/AIP/itemSelectionPage.do?link=showItemSelectionPage&siteId=674&languageCode=CY&source=AIP
Ceisiadau annilys
Sicrhewch fod ffurflenni cais wedi'u llenwi a'u llofnodi yn gywir, bod yr holl gynlluniau angenrheidiol yn gywir, a bod gwybodaeth ategol yn cael ei chyflwyno. Bydd eich cydweithrediad a'ch diwydrwydd yn hyn o beth yn lleihau'r pwysau ar adnoddau staff swyddfa cyfyngedig. Ni fydd ceisiadau annilys yn cael eu prosesu, a byddan nhw'n peri oedi.
Ceisiadau cyfredol
Bydd yr Awdurdod yn parhau i brosesu ceisiadau cyfredol er y bydd tarfu ar y gwasanaeth. Mae modd cysylltu â swyddogion achos dros y ffôn neu drwy e-bost, fodd bynnag, bydd ceisiadau'n cael eu penderfynu yn ôl eu rhinweddau eu hunain fel y'u cyflwynir gyda thrafodaeth gyfyngedig. Bydd cytundeb prydlon i unrhyw geisiadau am estyniad amser yn helpu'r swyddogion i reoli'r llwyth achosion yn ystod y cyfnod hwn o darfu.
Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Cynllunio yn cael ei gynnal yn rhithwir a bydd recordiadau o bob cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar-lein wedyn.
Gorfodi
Cyflwynwch bob cwyn yn ymwneud â materion gorfodi ar-lein – www.caerphilly.gov.uk/Services/Planning-and-building-control/Planning-enforcement?lang=cy-gb
Canllawiau ar gyfer Rheoli Adeiladu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i ddarparu Gwasanaeth Rheoli Adeiladu ar eich cyfer chi yn ystod y cyfnod anodd a chyfnewidiol hwn a thra bod y diwydiant adeiladu yn dal i weithio.
Gallwch barhau i gysylltu â swyddogion ar y rhifau canlynol:
- Jason Lear 01443 866776
- Hannah Woosnam 01443 866775
- Gerald Collins 01443 866778
- Chris McGoldrick 01443 866774
- George Davis 01443 866779
Gallwch hefyd anfon e-bost atom ni – RheoliAdeiladu@caerffili.gov.uk
Ceisiadau newydd
Cyflwynwch bob cais newydd am Reoli Adeiladu ar ffurf electronig drwy'r Porth Cynllunio neu drwy e-bost. Fel arall, rydyn ni'n hapus i gael ceisiadau dros y ffôn.
Mae modd talu'r ffioedd naill ai drwy BACS neu CHAPS i'r cyfrif canlynol:
Banc: Barclays Bank Plc
Cod didoli: 20-10-42
Rhif y cyfrif: 93455750
Rhaid i daliadau o'r fath gynnwys y cyfeiriad y mae'r gwaith yn berthnasol iddo fel cyfeirnod neu gyfeirnod Porth Cynllunio fel dynodwr. Rhaid i bawb sy'n talu drwy drosglwyddiad electronig o'r banc hefyd anfon e-bost i RheoliAdeiladu@caerffili.gov.uk er mwyn rhoi gwybod i ni pryd y mae'r taliad yn cael ei brosesu.
Ceisiadau cyfredol
Bydd yr Awdurdod yn parhau i brosesu ceisiadau cyfredol, ond mae'n bosibl y bydd tarfu ar y gwasanaeth.
Arolygu safleoedd
Mae'r gwaith arolygu safleoedd yn cael ei adolygu bob dydd yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. Byddwn ni'n parhau i ymweld â safleoedd ar ôl cadarnhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Fel arall, rydyn ni'n debygol o argymell gohirio'r arolygiad neu, os yw'n briodol, asesu'r gwaith drwy ryw ddull arall.
Strwythurau peryglus
Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost i roi gwybod i ni am strwythurau peryglus posibl, a byddwn ni'n ymdrechu i ddelio â nhw yn y modd arferol.
Coronafeirws (COVID-19) – Trefniadau chwilio personol
Mae adeiladau'r Cyngor bellach wedi cau ac ar hyn o bryd nid oes mynediad i'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Felly, gofynnir i Asiantau Chwilio Personol gysylltu ag adrannau unigol yn y Cyngor i gael gwybodaeth a gedwir o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 – dyma eu manylion:
Ymholiadau o ran LLC1
Yn achos ymholiadau eraill o ran CON29 a CON29O, gweler y daenlen.
Gallwch hefyd anfon cais am Chwiliad Pridiannau Tir swyddogol – gweler ‘Gwneud cais am chwiliad’ isod. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn taliad drwy siec na dros y ffôn – yr unig ddull talu sydd ar gael ar hyn o bryd yw trwy BACS. Os ydych chi am wneud cais am chwiliad a thalu drwy BACS, anfonwch e-bost i PridiannauTir@caerffili.gov.uk er mwyn cael cadarnhad o'r ffi sy'n ofynnol a'r manylion BACS.