Henebion cofrestredig 

Mae'r safleoedd archeolegol mwyaf gwerthfawr yn cael eu gwarchod ar ffurf henebion cofrestredig. Gwneir y gwaith hwn gan Cadw, sef un o isadrannau Llywodraeth Cymru.

Ers 1884 cadwyd rhestr o henebion y rhoddir blaenoriaeth i'w cadwraeth o flaen mathau eraill o ddefnydd tir. Mae'r ddeddfwriaeth gyfredol, sef Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, yn sail i system ffurfiol o Ganiatâd Heneb Gofrestredig ar gyfer unrhyw waith ar heneb gofrestredig.

Caniatâd heneb gofrestredig

Rhaid i unrhyw gynnig i wneud gwaith ar heneb gofrestredig a fyddai'n dymchwel, dinistrio, difrodi, symud ymaith, atgyweirio, newid, ychwanegu at, gorlifo neu orchuddio heneb fod yn destun cais am ganiatâd heneb gofrestredig. Mewn gwirionedd, rhaid gwneud cais am ganiatâd heneb gofrestredig hefyd ar gyfer gwaith a allai fod yn fuddiol i'r heneb, megis atgyfnerthu gwaith cerrig neu wneud gwaith cloddio ymchwiliol.

Mae'r canlynol yn anghyfreithlon:

  • difrodi heneb gofrestredig drwy wneud gwaith heb ganiatâd
  • achosi difrod diofal neu fwriadol
  • efnyddio synhwyrydd metel heb ganiatâd, neu symud ymaith wrthrych a ganfuwyd gan ddefnyddio synhwyrydd metel heb ganiatâd.

Gall collfarn am y troseddau hyn arwain at ddirwy.

Henebion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Ceir 47 o henebion cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Gellir lawrlwytho'r manylion amdanynt isod:

Rhestr Henebion o Bwysigrwydd Cenedlaethol (PDF 12kb) 

Mae rhagor o fanylion am henebion cofrestredig a'r Grantiau cysylltiedig ar gael ar wefan Cadw.

Cysylltwch â ni