Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol 

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.

Mae’r Warant Cartrefi Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol yn wasanaeth o safon sy’n cynnig cynnyrch cystadleuol penodol ar gyfer tai preswyl, tai cymdeithasol a thai hunan-adeiladu.

Mae’r cynllun Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol wedi’i greu mewn partneriaeth sy’n cynnwys Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol sef y corff sy’n cynrychioli Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol a MD Insurance Services Limited (MDIS) sef y cwmni sy’n gweinyddu’r cynllun sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).

Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol

Mae hon ar gyfer addasu eiddo, adeiladu eiddo newydd a datblygiadau defnydd cymysg. Gan weithio wrth ochr syrfëwr yr awdurdod lleol, cynhelir arolygon ychwanegol i sicrhau bod y safonau gorau posib yn cael eu cyflawni.

LABC Social Housing Warranty

Provides for the cost of complete, partial rebuilding or rectifying work to the new development, which has been affected by major damage.

Gwarant Tai Cymdeithasol Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol

Mae hon wedi’i llunio’n arbennig i unigolion sy’n adeiladu eu cartrefi eu hunain ac mae’r warant ar gyfer adeiladau newydd ac adeiladau sy’n cael eu haddasu. Caiff Gwarant Hunan-adeiladu Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol ei gweinyddu gan MD Insurance Services Limited.

Pam defnyddio Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol?

  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ganiatáu proses fwy llyfn
  • Rydym yn cynnig cofrestru am ddim, gwasanaethau dyfynbrisio am ddim
  • Nid oes ffioedd adnewyddu blynyddol
  • Mae modd dewis gosodiadau di-log am ddim er mwyn lledu cost yr ad-daliadau
  • Rydym yn cynnig yswiriant cynhwysfawr
  • Rydym yn cynnig prisoedd hynod gystadleuol wedi’u cefnogi gan wasanaeth uwch
  • Rydym yn cynnig Rheolwyr Cyfrif Rhanbarthol ac yswiriant mewnol, hyblyg
  • Mae gwasanaeth cynnal HIP am ddim ar gael fel rhan o’r warant
  • Rydym yn cynnig tîm arolygu a gwasanaethau technegau mewnol ar gyfer Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol

Sut i dderbyn dyfynbris

Am wybodaeth bellach am y gwarantau sydd ar gael neu i dderbyn dyfynbris cysylltwch â Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol ar 0845 054 0505 neu ewch i wefan Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol i lawrlwytho ffurflen gais.
 

Cysylltwch â ni