FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Arbedion ynni yn y cartref

Os ydych yn cael trafferth talu’ch biliau tanwydd, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig tariffau is i bobl ar incwm isel neu bobl sy’n agored i niwed.

  • Nyth Cymru cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon.
  • Canolfan Cyngor ar Ynni De-ddwyrain Cymru yn helpu pobl leol i newid cyflenwyr ynni a gwneud eu cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, gan helpu i leihau eu biliau ynni domestig ac yn eu cadw'n gynnes yn eu cartrefi.
  • National Energy Action ymdrechu i drechu tlodi tanwydd, gan ymgyrchu dros fuddsoddi mwy mewn effeithlonrwydd ynni i helpu pobl dlawd ac agored i niwed.
  • Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru cyngor annibynnol ar sut i arbed ynni yn eich cartref.

Siarter Cyd Cymru

Mae’r Cyngor yn rhan o Siarter Cyd Cymru, sef cynllun cydfargeinio ynni i gartrefi yng Nghymru, sy’n ceisio helpu pobl leol i leihau eu biliau ynni.

Crëwyd Cyd Cymru i gynnig cyfle i bobl Cymru arbed arian drwy ddod ynghyd i brynu ‘mewn swmp’.

Datblygwyd y cynllun gan Gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Hyd yma, cafwyd dwy rownd gydfargeinio rhwng Ionawr a Mawrth 2014. Newidiodd 1,500 o gartrefi gyflenwyr ynni gan arbed £185 ar gyfartaledd.

Y cam cyntaf yw cofrestru‘ch diddordeb, gan roi cymaint o fanylion â phosib am eich defnydd o ynni. Mae modd gwneud hyn ar-lein (www.cydcymru-energy.com) neu drwy ffonio (0800 093 5902). Rhaid i drigolion gofrestru erbyn dydd Sul 1 Mawrth 2015

Caiff y cynigion tariff arbennig eu hanfon i gartrefi cofrestredig ym Mawrth 2015. Yna gallwch weld sut mae’r cynigion yn cymharu â thariffau eraill sydd ar gael ar y farchnad.  Nid oes yn rhaid newid a chewch bythefnos i benderfynu a ydych am wneud hynny ai peidio.

Cofiwch fod grwpiau eraill y gallwch eu defnyddio hefyd i newid cyflenwyr

Toll Helpu oddi wrth Dŵr Cymru 

Os ydych yn gwsmer Dŵr Cymru a bod cyfanswm eich incwm cartref yn £12,500 neu’n llai y flwyddyn, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn hyd at 55% ar gyfartaledd o £250 oddi ar eich bil dŵr a charthffosiaeth gyda’r doll newydd o Dŵr Cymru o’r enw Helpu. Ewch i wefan Dŵr Cymru am fanylion am sut i wneud cais.

Hawlio’ch taliadau tanwydd gaeaf

Os ydych eisoes yn cael pensiwn y wladwriaeth neu fudd-dal lles arall a delir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, byddwch yn cael y taliad yn awtomatig. Fel arall bydd yn rhaid i chi wneud cais. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth taliadau tanwydd gaeaf ar 08459 151 515 neu ewch i Gov.UK.