Taliadau Uniongyrchol

Taliadau uniongyrchol yw arian a roddir i chi i drefnu eich gofal eich hun i gyflogi cynorthwywyr personol, ac maen nhw'n cael eu rhoi i bobl ag anghenion yr aseswyd eu bod yn gymwys i gael gwasanaethau. Mae taliadau uniongyrchol yn cynnig dewis a hyblygrwydd i chi allu rheoli’ch trefniadau gofal eich hun. Mae’r gwasanaethau y gallwch eu prynu’n wasanaethau a fyddai fel arall yn cael eu darparu gan y gwasanaeth gofal cymdeithasol oedolion. Maen nhw’n wasanaethau yr aseswyd bod arnoch eu hangen pan fyddwch wedi cael asesiad anghenion.

Pwy all gael taliadau uniongyrchol?

WGyda rhai eithriadau, gall y bobl ganlynol wneud cais i gael taliadau uniongyrchol:

  • Unrhyw oedolyn (18+ oed) sy’n gymwys i gael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
  • Pobl ifanc anabl 16 neu 17 oed
  • Gofalwyr i unrhyw un o’r bobl a restrir uchod
  • Gofalwyr neu rieni plant anabl

Cyn belled â’ch bod yn berson enwebedig (person addas), eich bod yn gallu deall eich rôl fel cyflogwr, a’ch bod yn gallu rheoli’r agweddau ariannol ar y taliadau uniongyrchol, dylech fod yn gymwys i wneud cais am daliad uniongyrchol.

Ond os yw'r gwasanaethau cymdeithasol o’r farn nad dyma’r ffordd fwyaf priodol o fodloni’ch anghenion, trafodir hyn â chi a chaiff gwasanaethau eraill eu cynnig.

Gwneud cais am daliadau uniongyrchol

I gael eich ystyried am daliad uniongyrchol, byddai angen i chi fod wedi cael eich asesu yn yr un ffordd ag y caech eich asesu am unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol.

Os ydych eisoes yn cael gwasanaethau gan y gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch â’ch gweithiwr/wraig gymdeithasol i siarad am daliadau uniongyrchol, neu cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth. Os nad ydych wedi cael gwasanaethau gennym o’r blaen bydd angen i chi gysylltu â ni i gael asesiad anghenion. Yna gallwn weld a allech gael cymorth.

At beth y gellir defnyddio taliadau uniongyrchol?

Gallwch ddefnyddio’r arian a gewch drwy daliadau uniongyrchol i dalu am unrhyw rai o’r canlynol:

  • Cyflogi rhywun yn uniongyrchol i helpu â’ch gofal (cynorthwyydd personol)
  • Prynu gofal gan asiantaeth gofal cofrestredig preifat
  • Gwneud eich trefniadau’ch hun yn lle defnyddio gofal dydd y gwasanaethau gofal cymdeithasol neu ofal seibiant 

Gallwch brynu unrhyw un o’r gwasanaethau uchod, ar yr amod eu bod yn eich cynllun gofal, y cytunwyd arno â’ch gweithiwr/wraig cymdeithasol. Cewch yr arian i’ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Pethau sydd angen i chi eu hystyried

  • Ni allwch fel arfer defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu’ch partner neu’ch priod neu berthynas agos rydych yn byw gydag ef neu hi.
  • Gallwch gael cymysgedd o wasanaethau cymdeithasol a thaliadau uniongyrchol.
  • Chi neu’ch person enwebedig (person addas) sy’n gyfrifol am reoli’r arian a chadw cofnodion i ddangos ei fod wedi’i wario yn y ffordd gywir.
  • Chi neu’ch person enwebedig (person addas) fydd y cyflogwr, a bydd angen i chi gydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth. Cewch gymorth a chanllawiau ar sut i gyflawni’r rôl.
  • Ar ôl i chi ddechrau cael taliadau uniongyrchol disgwylir i chi fod yn rhan mewn adolygiadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn bodloni’ch anghenion a bod yr arian yn cael ei wario’n briodol.
  • Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn talu arian i gyfrif banc ar wahân y bydd angen i chi ei agor.
  • Efallai bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniad at eich taliadau uniongyrchol neu’ch gwasanaethau, a chewch eich asesu dan y ‘Polisi Taliadau Tecach’.
  • Ni fydd cael taliadau uniongyrchol yn effeithio ar eich budd-daliadau gan mai’r cyngor sydd yn dal i berchen ar yr arian – nid eich arian personol chi mohono.
  • Mae gan wasanaethau cymdeithasol Caerffili dîm penodedig o staff cymorth. Gall roi help i chi gyda gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim. Gall hefyd roi cymorth ymarferol i chi i helpu â thasgau fel recriwtio, cyflogi staff a’ch arwain drwy waith papur. Gall hefyd eich cyfeirio at wasanaethau ymgynghorol arbenigol o ran trethi, yswiriant gwladol a chyfraith cyflogaeth. 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am daliadau uniongyrchol cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.

Cysylltwch â ni