Cardiau swyddfa bost
Gellir defnyddio cerdyn Swyddfa Bost i dalu am:
- Dreth y Cyngor
- Rhent Tai
- Ardrethi Busnes
- Gordaliadau Budd-daliadau Tai
- Anfonebau eraill (drwy gytundeb ymlaen llaw)
Gallwch wneud taliad mewn unrhyw swyddfa bost gan ddefnyddio'ch cerdyn.
Gall cardiau gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i'w dosbarthu, rhaid i chi barhau i wneud taliadau drwy ddull arall nes i chi dderbyn eich cerdyn.
Gwneud cais am gerdyn swyddfa bost>
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!