Olrhain eich achau

Gall pob un o’n llyfrgelloedd eich helpu ag ymholiadau hanes lleol, ac mae gan bob llyfrgell, heblaw y rhai lleiaf, gasgliadau hanes lleol sy’n cynnwys llyfrau, erthyglau papur newydd a ffotograffau sydd ar gael i chi eu gweld.

Rydym yn cadw ffurflenni cyfrifiad lleol ar gyfer y cyfnod 1841-1901 a’r Mynegeion Cofrestru Sifil ar gyfer y cyfnod 1837-2002 – sy’n cynnwys genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Ymhlith yr adnoddau eraill ceir cofrestri plwyf lleol ar ficrofiche, arysgrifau cofebol, mapiau degwm a mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol.  Mae nifer o bapurau newydd lleol o’r cyfnod cyn 1950 ar gael ar ficroffilm hefyd, gan gynnwys y South Wales Echo a’r Merthyr Express.

Deunydd cyfeirio a help gyda gwaith ymchwil

Llyfrgell Bargod Llyfrgell Fargod yw’r prif ganolfan ar gyfer hel achau. Mae gan y llyfrgell ardal ddysgu ar y llawr daear sy’n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol, gyda staff wrth law i roi cymorth i chi.

Bydd y cyfleusterau canlynol ar gael i chi:

  • Darllenydd ac argraffydd microffilm a microfiche
  • Mynediad i’r rhyngrwyd – gan gynnwys mynediad i Ancestry.com
  • Detholiad o lyfrau ar hanes teuluol
  • Detholiad o lyfrau hanes cyffredinol a llyfrau hanes lleol
  • Mynediad i gatalog casgliad yr Amgueddfa a gwrthrychau o’r casgliad hwnnw
  • Y Mynegeion Cofrestru Sifil (Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau 1837-2006)
  • Cofrestri plwyf mewn llyfrynnau ac ar ficrofiche
  • Cyfeiriaduron Masnach
  • Y Gofrestr Etholiadol
  • Detholiad o Bapurau Newydd a ddefnyddir yn fynych, gan gynnwys y Merthyr Express a’r Bargoed, New Tredegar and Caerphilly Journal
  • Argraffydd/llungopïwr

Gallwn eich helpu â’ch gwaith ymchwil. Cysylltwch â Llyfrgell Bargod am fwy o fanylion.

Cysylltwch â ni