FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Adnewyddu llyfr llyfrgell neu eitem arall

Gallwch adnewyddu llyfrau, DVDs, CDs, ac eitemau eraill ar-lein, gyda'n ap, ar y ffôn, drwy e-bost neu yn bersonol mewn llyfrgell. Mae pob opsiwn yn cael ei esbonio isod.

Gallwch adnewyddu eitemau hyd at 5 gwaith yn olynol cyn belled nad oes neb wedi eu harchebu.

Mae taliadau llogi am adnewyddu dvds, cds, gemau a llyfrau llafar. Cliciwch yma am daliadau cyfredol a ffioedd.

Sut i adnewyddu ar-lein

  • Mewngofnodwch i'ch cyfrif llyfrgell.
  • Nodwch rif eich cerdyn llyfrgell a rhif pin.
  • Dewiswch 'Benthyciadau cyfredol'.
  • Dewiswch yr eitemau yr hoffech eu hadnewyddu a dewiswch 'adnewyddu’r detholiad' neu 'adnewyddu popeth'.

Gall unrhyw un gael mynediad at y catalog i chwilio, ond os hoffech neilltuo neu adnewyddu eitem neu wirio eich benthyciadau presennol, mae'n rhaid i chi fod yn aelod o'r llyfrgell a chael cerdyn llyfrgell a rhif adnabod personol.

Gwasanaethau ar gael i aelodau'r llyfrgell yn unig

Os ydych chi wedi ymuno â'r llyfrgell, mae nifer o wasanaethau ychwanegol ar gael i chi drwy gatalog y llyfrgell. Drwy gyrchu eich cyfrif llyfrgell, gallwch chi :

Adnewyddu dros y ffôn

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych eich cerdyn llyfrgell wrth law.
  • Ffoniwch eich llyfrgell leol.
  • Gofynnwch i ni adnewyddu eich eitemau
  • Byddwn yn gofyn am ychydig o fanylion pellach i gadarnhau eich bod yn berchennog y cyfrif 

Adnewyddu drwy e-bost

  • Anfonwch e-bost at lyfrgelloedd@caerffili.gov.uk gyda'r manylion canlynol:
  • Testun – Adnewyddu eitemau ar fy nghyfrif
  • Cynnwys – Eich enw, Rhif Cerdyn Llyfrgell a Chôd Post

Rydym yn ymdrechu i ymateb i bob e-bost o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Adnewyddu mewn llyfrgell

Adnewyddu eich eitemau drwy ymweld ag unrhyw un o'n llyfrgelloedd. Gallwn wneud hyn i chi wrth y cownter neu gallwch ddefnyddio peiriant hunan-wasanaeth.

Adnewyddu e-Lyfrau, e-Gylchgronau neu e-Sain

Ar gyfer unrhyw un o'n e-Lyfrau, e-Gylchgronau neu adnoddau e-Sain, mae angen eu hadnewyddu drwy'r wefan berthnasol.

Nid yw’ch Pin gyda chi neu nid ydych yn ei wybod?

Os nad yw’ch Pin gyda chi neu os nad ydych yn ei wybod, gofynnwch am un y tro nesaf y byddwch yn y llyfrgell neu e-bostiwch ni ar llyfrgelloedd@caerffili.gov.uk.

Os rhoddoch eich cyfeiriad e-bost i ni pan ymunoch â'r llyfrgell, gallwch hefyd ddefnyddio'r Opsiwn 'Wedi anghofio’r Pin' yn adran Mewngofnodi gwefan gatalog y llyfrgell a bydd e-bost yn cael ei anfon atoch yn awtomatig.

  • Gweld eich gwybodaeth bersonol
  • Gweld hanes eich benthyciadau
  • Adnewyddu eich llyfrau llyfrgell
    • Mewngofnodi gyda'ch rhifau cerdyn llyfrgell a rhifau PIN.
    • Ewch i 'Fy Nghyfrif'.
    • Ewch i 'Benthyciadau Cyfredol'.
    • Dewiswch y botwm 'adnewyddu' wrth ymyl yr eitemau yr hoffech chi eu hadnewyddu.
    • Sicrhewch fod eich cerdyn llyfrgell wrth law.
    • Ffoniwch eich llyfrgell leol
    • Gofynnwch i ni adnewyddu eich eitemau
    • Byddwn ni'n gofyn ychydig o fanylion pellach i chi i gadarnhau mai chi yw perchennog y cyfrif
    • Sicrhewch fod eich cerdyn llyfrgell wrth law.
    • Anfonwch e-bost at Llyfrgelloedd@caerffili.gov.uk gyda'r manylion canlynol:
      • Pwnc - Adnewyddu eitemau ar fy nghyfrif
      • Cynnwys - Eich enw, rhif cerdyn llyfrgell a chod post
    • Rydyn ni'n ymdrechu i ymateb i bob e-bost o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Cysylltwch â ni