FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gwasanaeth Archebu a Chasglu

Sut mae Archebu a Chasglu yn gweithio?

Gallwch archebu eitemau gan ddefnyddio un o dri opsiwn:

1. Llenwi a chyflwyno ffurflen gais Archebu a Chasglu

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

2. Mewngofnodi a mynd i gatalog y llyfrgell. Yma, gallwch drefnu archebion ar gyfer teitlau unigol.

3. Neu os yw’n well gennych chi, gallwch gysylltu â’ch llyfrgell leol lle bydd aelod o staff yn eich helpu i lenwi’r ffurflen ar eich rhan.

4. Bydd aelod o dîm y llyfrgell yn asesu'ch cais ac yn paratoi eich archeb.

5. Byddwn ni'n eich ffonio i roi gwybod i chi fod eich llyfrau'n barod a threfnu dyddiad ac amser i'w casglu.

6. I ddychwelyd llyfrau, rhowch nhw yn y Bin Dychwelyd Llyfrau a fydd wrth fynedfa'r llyfrgell. Mae modd gwneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor neu wrth gasglu'ch archeb nesaf.

Ym mha lyfrgelloedd y gallaf gael mynediad at y gwasanaeth hwn?

Mae'r gwasanaeth Archebu a Chasglu ar gael ym mhob llyfrgell ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

A yw hyn yn ddiogel?

Mae'r rhaglen Archebu a Chasglu yn cydymffurfio â chyfarwyddebau iechyd a diogelwch cyfredol.   

Sut mae benthyg llyfrau?

Bydd eich llyfrau eisoes wedi'u benthyg i'ch cyfrif a byddan nhw'n barod i'w casglu. Gofynnwn i chi ddod â'ch bag eich hun, ond bydd modd i ni ddarparu bag y mae modd ei ailddefnyddio ar gais.

O ble rydw i'n casglu fy llyfrau?

Pan fyddwn ni'n cysylltu â chi i roi gwybod i chi fod eich llyfrau'n barod i'w casglu, byddwch chi'n derbyn dyddiad ac amser penodedig i'w casglu. Yn syml, ewch i fynedfa'r llyfrgell rydych chi wedi'i dewis i gasglu'ch llyfrau ar yr amser a'r dyddiad sy'n cael eu rhoi. Bydd aelod o staff yn eich tywys trwy'r broses.

Am ba mor hir gallaf i gadw'r llyfrau?

Bydd llyfrau'n cael eu benthyg am y cyfnod benthyciad arferol o dair wythnos.

A oes modd i fi adnewyddu eitemau?

Mae modd adnewyddu pob eitem fel arfer drwy eich cyfrif llyfrgell ar-lein neu dros y ffôn trwy gysylltu â'ch llyfrgell gasglu ddynodedig. Atgoffir cwsmeriaid na fydd modd adnewyddu eitemau sy'n destun cais gan ddarllenydd arall.

A gaf i ofyn am lyfr penodol?

Mae modd gwneud cais trwy'r gwasanaeth ar-lein neu drwy'r gwasanaeth Slip Cais, ond sylwch na fydd ein stoc lawn y llyfrgell ar gael i'w gweld ar-lein.

Pan fydd eich llyfrau yn barod i'w casglu, byddwn yn cysylltu â chi.

Mae gwasanaethau ymgeisio am stoc llyfrgell bellach ar gael. Am fanylion, holwch aelod o'r staff.

A ydw i'n cael dod i ddychwelyd fy llyfrau, heb gasglu rhai newydd?

Ydych. Darperir Biniau Dychwelyd Llyfrau y tu allan i'n llyfrgelloedd sydd ar agor. Mae modd rhoi unrhyw eitemau i'w dychwelyd yn y biniau hyn. Gofynnwn i chi beidio â symud unrhyw eitemau o'r Biniau Dychwelyd Llyfrau.

Beth os oes gen i ffioedd heb eu talu?

Ni fydd unrhyw ffioedd na thaliadau wedi cronni ar gyfrifon cwsmeriaid am y cyfnod y mae'r llyfrgelloedd wedi bod ar gau oherwydd y pandemig COVID-19. Gweithredir unrhyw ffioedd a thaliadau a gronnwyd cyn y cyfnod hwn pan fydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau. Peidiwch â phoeni os oes dirwyon arnoch chi. 

Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd a'i staff yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld ac yn gobeithio gallu agor ein drysau i drigolion wrth i gyfyngiadau Llywodraeth Cymru gael eu codi.