Help i fewngofnodi

Mewngofnodi

Bydd angen eich rhif aelodaeth arnoch i fewngofnodi i’ch cyfrif,  sef y rhif 16 nod ar flaen eich cerdyn aelodaeth.

Bydd angen i chi wybod eich cyfrinair unigryw hefyd. Wrth gofrestru ar gyfer eich cerdyn, oni bai eich bod wedi nodi fel arall yn benodol, eich cyfrinair fydd eich dyddiad geni, e.e. 01/09/1980.

Anghofio cyfrinair

Os nad ydych yn cofio eich cyfrinair a’ch bod wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni wrth gofrestru, gallwch ddefnyddio’r botwm ‘Wedi Anghofio Cyfrinair’ ar y sgrin fewngofnodi a byddwn yn anfon cyfrinair newydd i chi drwy e-bost.

Os nad ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni, bydd angen i chi gysylltu â Cysylltwch â'ch llyfrgell leol a byddant yn ailosod eich cyfrinair.

Diogelwch eich cyfrif

Rhaid i chi gael rhif cerdyn a chyfrinair dilys i fewngofnodi i’ch cyfrif.

Bydd eich Cyfrif yn dangos eich gwybodaeth bersonol sylfaenol, eich benthyciadau a'ch archebion.

Gallwch newid eich cyfrinair unrhyw bryd ar ôl mewngofnodi drwy ddewis ‘Newid fy Nghyfrinair’. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin ar y dudalen honno i gwblhau’r broses.

Cyfrif caeedig

Gall mynediad i’ch cyfrif ar-lein fod wedi’i atal ar adegau. Gallai hyn fod oherwydd dirwyon sy’n ddyledus, neu os ydych wedi nodi’r cyfrinair anghywir mwy na 5 gwaith.

Os bydd eich cyfrif ar gau cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Ddim yn aelod?

Os nad ydych yn aelod o Wasanaeth Llyfrgell Caerffili, gallwch ymuno yn eich llyfrgell neu ganolfan hamdden leol ond bydd angen i chi brofi pwy ydych chi.

Cysylltwch â ni