Ein Cyngor

Man gwyrddach ar gyfer gyrfa newydd gyffrous

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn un o'r awdurdodau lleol mwyaf yng Nghymru ac mae'n cyflogi tua 9,000 o bobl, gan ei gwneud yn gyflogwr mwyaf yn yr ardal a'r 10fed mwyaf yng Nghymru.

Mae'r cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau i bron i 180,000 o bobl sy'n byw ym mwrdeistref sirol Caerffili, gan gynnwys addysg, gwasanaethau amgylcheddol, priffyrdd, cyfleusterau hamdden, cynllunio a gwasanaethau cymdeithasol.

Dolenni Defnyddiol

Dewiswch y dolenni isod i gael gwybod mwy am swyddogaethau allweddol y cyngor, sut rydym yn rheoli ein cyllideb, ein Cynllun Gwella, gwasanaethau democrataidd a sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â thrigolion a busnesau lleol.